Cynghorwyr Abertawe’n ystyried parcio ceir

3022238883_27aac2f87b_z

Mae cynghorwyr craffu’n bwriadu cwrdd yn ddiweddarach ym mis Medi i drafod parcio ceir yn Abertawe. Maent wedi derbyn nodyn briffio gan Bwyllgor y Rhaglen Graffu am weithgor untro i godi pryderon a gofyn cwestiynau am ansawdd darpariaeth parcio ceir ar draws Abertawe, gan gynnwys perfformiad gwasanaethau a chynlluniau i wella.

Bydd y gweithgor yn cwrdd รข swyddogion perthnasol y cyngor. Dyma rai o gwestiynau y mae’r gweithgor yn bwriadu eu gofyn:

  • Faint mae’r ddarpariaeth gwasanaeth parcio ceir yn ei gostio yn Abertawe?
  • Beth yw’r incwm a geir o’r gwasanaeth hwn?
  • A oes digon o ddarpariaeth parcio ceir?
  • A yw’r ddarpariaeth parcio ceir o safon?
  • Pa mor dda mae’r gwasanaeth yn perfformio gan gynnwys pa mor dda rydym yn perfformio o’i gymharu ag ardaloedd eraill yr awdurdod lleol?
  • Beth yw’r cynlluniau ar gyfer gwella parcio ceir yn Abertawe?

Os hoffech gael mwy o wybodaeth am y gweithgor hwn neu am graffu yn Abertawe yn gyffredinol, gallwch e-bostio scrutiny@swansea.gov.uk

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.