Cynghorwyr Abertawe i archwilio Gorfodi Amgylcheddol


Sefydlwyd gweithgor i archwilio gorfodi amgylcheddol yn Abertawe. Bydd Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd, Pennaeth Priffyrdd a Chludiant a Phennaeth Rheoli Gwastraff a Pharciau’n dod i’r cyfarfod i drafod materion â chynghorwyr ac yn darparu adroddiad trosolwg am y mater.

Byddant yn ystyried, er enghraifft, yr wybodaeth sydd ar gael, yn gofyn cwestiynau ac yn trafod y sefyllfa bresennol yn Abertawe mewn perthynas â gorfodi/atal materion amgylcheddol megis tipio anghyfreithlon, baw c?n, sbwriel, parcio ar balmentydd etc a’r ymdrechion i leihau unrhyw broblemau a nodir neu ymdrin â hwy.

Cynhelir y cyfarfod hwn ar 5 Chwefror am 10.00am yn Ystafell Bwyllgor 5 yn Neuadd y Ddinas, Abertawe. Ceir yr agenda wythnos cyn y cyfarfod drwy ddilyn y ddolen hon.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.