7 ffordd y gallwn wella cydraddoldeb yn Abertawe

Dyfarnodd panel o gynghorwyr craffu fod ‘Cyngor Abertawe yn trin pobl yn deg ond gallai wneud yn well’. Roedd yr Ymchwiliad yn ystyried ‘sut y gall y cyngor wella’r ffordd y mae’n bodloni ac yn ymgorffori’r gofynion o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yng Nghymru 2011)’.

Meddai Cynullydd y Panel Ymchwiliad Craffu Cydraddoldebau, y Cynghorydd Louise Gibbard, ‘Penderfynom ystyried y mater hwn oherwydd ei fod yn ymddangos yn aml yn rhestr y materion y mae cynghorwyr a’r cyhoedd cyffredinol yn pryderi amdanynt. Ddeng mlynedd ar ôl pasio’r Ddeddf Cydraddoldeb, mae wedi rhoi’r cyfle i gynghorwyr craffu ystyried pa mor bell rydym wedi dod fel dinas ac awdurdod lleol o ran ymgorffori egwyddorion cydraddoldeb ac amrywiaeth ym mhopeth rydym yn ei wneud.’

Daeth y panel o gynghorwyr craffu i’r casgliad bod saith ffordd y gall Cyngor Abertawe wella’r ffordd y mae’n bodloni’i ddyletswyddau cydraddolebau. Maent yn credu y gellir gwneud hyn drwy:

  1. Gadw llygad ar y llun cenedlaethol a sut mae’n effeithio arnom yn lleol
  2. Parhau i adeiladu ar yr ymrwymiad i gydraddoldeb ac amrywiaeth sydd eisoes yn amlwg yn y cyngor
  3. Sicrhau bod polisïau, arfer a phrosesau effeithiol ar waith sy’n bodloni’r Ddyletswydd Cydraddoldeb ac yn helpu i’w hymgorffori
  4. Gwella hygyrchedd gwasanaethau’r cyngor
  5. Gwella sut rydym yn gweithio gyda phobl eraill ac yn dysgu ganddynt
  6. Parhau i wella sut rydym yn ymgynghori ac yn ymgysylltu
  7. Diogelu cenedlaethau’r dyfodol.

Cytunwyd ar adroddiad llawn yr ymchwiliad craffu’n ddiweddar gan Bwyllgor y Rhaglen Graffu. Bydd yr adroddiad yn mynd gerbron Cabinet y cyngor ar 19 Medi. Byddant yn ystyried yr argymhellion a nodir yn yr adroddiad ac yn ymateb iddynt, gan gytuno ar bob un argymhelliad neu ei wrthod. Yna, bydd yr argymhellion hynny y cytunwyd arnynt gan y Cabinet yn ffurfio cynllun gweithredu ar gyfer gwella. Bydd y Panel Ymchwiliad Craffu Cydraddoldebau wedyn yn dilyn cynnydd ynghylch yr argymhellion ar ôl cyfnod o 9 i 12 mis.

Mae dolenni i fersiynau gwahanol o’r adroddiad fel a ganlyn:

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.