Bobl Ifanc! Neidiwch ar y trên craffu a dewch i ddysgu am gydraddoldebau!

Ar gyfer yr ymchwiliad craffu hwn daeth gr?p o gynghorwyr at ei gilydd i lunio Panel Ymchwiliad Craffu. Buon nhw’n edrych ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010, sef deddf a roddwyd ar waith i ddiogelu pobl yn gyfreithiol rhag gwahaniaethu yn y gweithle ac yn y gymdeithas ehangach. Mae hefyd yn nodi’r ffyrdd gwahanol y mae’n anghyfreithlon i drin rhywun.

Roedd y Cynghorwyr Craffu wedi casglu gwybodaeth a thrafod gyda sefydliadau ac unigolion gwahanol i ymchwilio i sut mae Cyngor Abertawe’n cyflawni ei ddyletswyddau.

Roedd Cynghorwyr Craffu hefyd wedi siarad â phobl ifanc yn ystod digwyddiadau’r Sgwrs Fawr yn gynharach eleni er mwyn casglu eu barn.

I weld yr adroddiad a ysgrifennwyd yn arbennig i bobl ifanc, cliciwch yma

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.