Cynghorwyr Craffu yn llongyfarch Ysgol Gynradd Penclawdd

Cyfarfu’r Panel a’r Pennaeth a Chadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Penclawdd. Dewison nhw siarad ag Ysgol Gynradd Penclawdd oherwydd ei bod wedi’i chategoreiddio’n Goch ar matrics cefnogi ERW. Roedden nhw am drafod taith wella’r ysgol, edrych ar yr hyn yr oedd yr ysgol yn ei wneud i wella ar ei pherfformiad presennol a sut yr oedd am wella yn y dyfodol. Mae’n nhw wedi mynegi eu meddyliau ar sut y mae’r ysgol yn datblygu yn llythyr y cynullydd at Aelod y Cabinet hwn.

Clywodd y panel am gyd-destun yr ysgol gan y Pennaeth, gan gynnwys y canlynol: ar hyn o bryd mae 146 disgybl ar y gofrestr, nodwyd bod 15% ag anghenion dysgu ychwanegol ac mae datganiadau gan 3 disgybl. Mae 15.6% o ddisgyblion yn derbyn prydau ysgol am ddim ac mae Saesneg yn iaith ychwanegol i 7.5% o ddisgyblion. Ar hyn o bryd mae 7 athro dosbarth (2 rhan-amser) a 10 cynorthwy-ydd addysgu (rhai ohonynt yn rhan-amser).

Daeth y Panel i’r casgliad o’n trafodaeth â’r Pennaeth, Cadeirydd y Llywodraethwyr a’r Ymgynghorydd Herio fod gwelliannau yn yr ysgol yn datblygu’n dda a bod hyn yn bennaf oherwydd y canlynol:

  • Mae gan yr ysgol gorff llywodraethu sy’n cefnogi, yn dangos diddordeb ac yn herio, ac sy’n deall ei sylfaen sgiliau ei hun, sy’n ei wneud yn wydn ac mewn sefyllfa dda i helpu i ysgogi gwelliannau. Roedd gan gynghorwyr ddiddordeb arbennig mewn clywed am y gwaith y mae’r corff llywodraethu wedi’i wneud gan ddefnyddio matrics i asesu ei sylfaen sgiliau. Roedd y Panel yn falch o glywed bod llywodraethwyr bellach yn weithredol, yn weladwy, yn wybodus ac yn barod i herio.
  • Mae tîm arweinyddiaeth cryfach ar waith gyda Phennaeth sy’n amlwg yn frwdfrydig a Dirprwy Bennaeth profiadol newydd ei benodi.
  • Mae gan yr ysgol gynllun gwella clir ac mae’n gweithio gyda’r awdurdod lleol a’r Gwasanaeth Gwella Addysg ac yn derbyn cefnogaeth ganddynt.
  • Mae arweinwyr ysgol sy’n defnyddio prosesau hunanwelliant yn effeithiol i nodi’r hyn y mae disgyblion yn ei wneud yn dda a beth sydd angen ei wella.
  • Mae’r ysgol yn ystyried yn ofalus pa offer gwella sydd orau ar gyfer ei chyd-destun gan gynnwys, er enghraifft, Building Blocks a Seesaw.
  • Mae’r ysgol yn dysgu’n frwdrydig drwy weld arfer da gan ysgolion eraill, a thrwy rannu arfer da ag ysgolion eraill.
  • Mae gan yr ysgol gefnogaeth gref gan rieni a’r gymuned leol ac mae’r ysgol wrth weithio’n ystyried ei rôl yn y gymuned yn ddifrifol.
  • Mae cynllun gweithredu cynnal a chadw i fynd i’r afael â diffygion gyda’r adeilad bellach ar waith, gan gynnwys diogelwch y safle.

Mae’r Panel yn falch o glywed bod yr ysgol mewn sefyllfa llawer gwell o adeg arolygiad Estyn, ac yn cydnabod ei bod wedi gwella llawer mewn amser byr. Mae hyn oherwydd ymrwymiad y Pennaeth a staff yr ysgol, y llywodraethwyr a’r Gwasanaeth Gwella Addysg i symud yr ysgol yn ei blaen o ran y gwelliannau y mae eu hangen. 

Roedd y Panel yn dymuno llongyfarch y Pennaeth a’r corff llywodraethu yn yr ysgol am eu gwaith caled a’u hymrwymiad i’r daith wella hon, sy’n amlwg yn profi’n llwyddiannus. Estynnwyd gwahoddiad i’r Panel ymweld â’r ysgol ac maen nhw’n bwriadu gwneud hynny er mwyn gweld y cynnydd sydd wedi’i wreiddio ymhellach yn ystod haf 2020.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.