Paneli Craffu’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn canolbwyntio ar ‘Asesiadau Gofalwyr’

Yn dilyn trafodaethau a gynhaliwyd fis diwethaf â rhieni oedolion â phroblemau Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu, mae paneli craffu’r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd wedi ymateb i bryderon am ‘asesiadau gofalwyr’ drwy gytuno i gynnal dau gr?p ffocws ychwanegol yn gynharach yr wythnos hon.

Clywodd y ddau banel am bryderon gofalwyr gan fynd ati i geisio dod o hyd i atebion i bob un o’r cwestiynau canlynol:

  • Beth sy’n mynd yn dda gyda’r asesiadau gofalwyr?
  • Beth yw’r rhwystrau/problemau a wynebir?
  • Beth gellir ei wella?

Bydd y trafodaethau a gynhelir yn cynorthwyo’r ddau banel yn eu cyfarfodydd ag Aelod y Cabinet dros Ofal, Iechyd a Heneiddio’n Dda, y Cyng. Mark Child ac Aelodau’r Cabinet dros y Gwasanaethau Plant, y Cyng. Elliott King a’r Cyng. Sam Pritchard, lle bydd ffocws ar asesiadau gofalwyr a’r hyn y mae’r cyngor yn ei wneud i sicrhau bod gwasanaethau’n parhau i wella.

Mae croeso i aelodau’r cyhoedd ddod i’r cyfarfodydd hyn. Cliciwch ar ddolenni’r cyfarfodydd uchod i weld rhagor o fanylion.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.