Ymchwiliad Craffu Cydraddoldeb Sut gall y cyngor wella'r ffordd y mae'n bodloni ac yn ymgorffori'r gofynion o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yng Nghymru) Y Panel Ymchwiliad Craffu Cydraddoldebau Mehefin 2019 Pam mae hyn yn bwysig Rhagair gan y Cynghorydd Louise Gibbard Cynullais gyfarfod cyntaf yr Ymchwiliad Craffu hwn gyda balchder mawr ym mis hydref 2018 ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Ferch. Dyma flwyddyn lle cafwyd rhai pen-blwyddi cydraddoldeb pwysig megis canmlwyddiant rhai o'r menywod cyntaf yn y DU i ennill yr hawl i bleidleisio, saith deg mlynedd ers cyrhaeddiad cenhedlaeth Windrush a phymtheng mlynedd ers Adran 28 yn ogystal â digwyddiadau coffa arwyddocaol eraill. Rydym yn dewis edrych ar y mater hwn oherwydd roedd yn uchel ar y rhestr o feysydd craffu awgrymedig a amlygwyd gan y cyhoedd a chynghorwyr. Ddeng mlynedd ar ôl pasio'r Ddeddf Cydraddoldeb, rhoddodd gyfle i gynghorwyr craffu ystyried pa mor bell rydym wedi dod fel dinas ac awdurdod lleol o ran ymgorffori egwyddorion cydraddoldeb ac amrywiaeth ym mhopeth rydym yn ei wneud. O ddechrau'r ymchwiliad, roeddem yn benderfynol o gysylltu â'r gymuned ehangach, yn enwedig â phobl â nodweddion gwarchodedig, i gael gwybod ganddynt a ydym yn gweithredu'n polisïau. Rwy'n hynod ddiolchgar i bob person unigol a gymerodd amser i ddod i'n cyfarfodydd, cyflwyno ymatebion ysgrifenedig a rhannu eu barn. Er nad oeddem wedi gallu mynd i'r afael â phob pwynt a godwyd yn yr adroddiad hwn, gallaf eich sicrhau ein bod wedi gwrando ar bob sylw a fynegwyd drwy gydol y broses, ei ystyried a'i werthfawrogi. Roedd yn galonogol clywed am y gwaith cadarnhaol iawn a wneir yn y cyngor i wneud Abertawe'n amgylchedd cynhwysol. Pan gymeron ni ran yn un o ddigwyddiadau'r "Sgwrs Fawr" gyda dysgwyr, roeddwn yn falch dros ben ac wedi'm calonogi i glywed am y croeso cynnes a gafodd un dyn ifanc, ffoadur diweddar o Syria, pan symudodd i Abertawe. Fodd bynnag, o drafodaethau eraill, yn enwedig y rheiny â gofalwyr a'r Gr?p Cydgysylltu Anableddau, mae'n amlwg ein bod ar adegau wedi methu bodloni disgwyliadau, ac mae gennym beth ffordd i fynd i sicrhau ein bod ni, fel sefydliad, yn gwneud pethau'n iawn ar gyfer ein holl ddinasyddion. Rydym yn gobeithio y bydd yr adroddiad hwn yn ddefnyddiol i'r Cabinet ac y bydd ein hargymhellion yn helpu Cyngor Abertawe i ddod yn sefydliad gwirioneddol gynhwysol, yn fewnol ac wrth iddo ryngweithio â'n cymunedau amrywiol. Hoffwn ddiolch i aelodau'r Panel Ymchwilio a roddodd eu hamser a'u hymrwymiad, ac unwaith eto hoffwn gydnabod yr holl bobl hynny a roddodd dystiolaeth a gwybodaeth i'r panel. Diolch yn fawr iawn hefyd i Michelle Roberts, ein Swyddog Cefnogi Craffu sydd wedi'n harwain drwy gydol y broses ac sydd wedi gweithio'n ddiwyd iawn i ddod â phopeth ynghyd yn yr adroddiad terfynol hwn. Crynodeb o'r casgliadau a'r argymhellion Isod ceir crynodeb o'r casgliadau a'r argymhellion a gododd o'r ymchwiliad hwn. Mae'r manylion llawn yng nghorff yr adroddiad. Casgliadau Edrychodd yr ymchwiliad yn gyntaf ar a yw'r cyngor yn cyflawni ei ddyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (a'r Ddyletswydd Cydraddoldeb cyhoeddus ar gyfer Cymru 2011). Daeth y panel i'r casgliadau canlynol: At ei gilydd, mae'r cyngor yn rhoi sylw dyladwy i ddileu gwahaniaethu, gwella cyfleoedd a meithrin perthnasoedd da. Canfuwyd sawl maes arfer da yn ystod yr ymchwiliad hwn, ond hefyd feysydd lle gallai'r cyngor wneud yn well. Yn ail, edrychodd yr ymchwiliad ar 'sut y gall y cyngor wella'r ffordd y mae'n bodloni ac yn ymgorffori'r gofynion o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yng Nghymru 2011). Daeth y panel i'r casgliad y gellid gwella hyn drwy: 1. Gadw llygad agos ar y llun cenedlaethol a sut mae'n effeithio arnom yn lleol 2. Parhau i adeiladu ar yr ymrwymiad i gydraddoldeb ac amrywiaeth sydd eisoes yn amlwg yn y cyngor 3. Sicrhau bod polisïau, arfer a phrosesau effeithiol ar waith sy'n bodloni'r Ddyletswydd Cydraddoldeb ac yn helpu i'w hymgorffori 4. Gwella hygyrchedd gwasanaethau'r cyngor 5. Gwella sut rydym yn gweithio gyda phobl eraill ac yn dysgu ganddynt 6. Parhau i wella sut rydym yn ymgynghori ac yn ymgysylltu 7. Diogelu cenedlaethau'r dyfodol. Argymhellion Gwelliannau gweladwy a buddiol 1 Rhoi Gr?p Cydraddoldeb Strategol lefel uchel ar waith ar draws y cyngor. 2 Datblygu Cynllun Cydraddoldeb newydd drwy gydweithio. Sicrhau ei fod wedi'i symleiddio ac yn canolbwyntio ar ganlyniadau ac effaith. Dylai'r cyngor dderbyn y cynnig gan Gomisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru i weithio gyda ni ar y cynllun. 3 Hyrwyddo gweithio CAMPUS gyda'n fforymau cydraddoldeb, sicrhau bod ganddynt oll gylchoedd gorchwyl, cynlluniau gwaith ac amserlenni clir. Sicrhau cysylltiad gwell ag adrannau'r cyngor a Chynghorwyr Hyrwyddo. Hwyluso sefydlu Fforymau Ymgynghorol Merched a Rhyng-grefyddol. 4 Egluro rôl Cynghorwyr Hyrwyddo a'u hyrwyddo ymhellach, sicrhau ymgysylltu gwell â Fforymau/Grwpiau Cydraddoldeb a sefydlu cysylltiadau â'r Gr?p Cydraddoldeb Strategol. 5 Egluro disgwyliadau'r rheiny sy'n cyflawni'r rôl Cynrychiolydd Staff Cydraddoldeb. Byddem yn disgwyl i'r rheiny a enwebwyd allu cymryd rhan wrth gydlynu cyfarfodydd a hyfforddiant a'u bod yn gysylltiedig â sylfaen wybodaeth/rwydwaith cefnogi ehangach am gyngor, arweiniad a chefnogaeth. 6 Cwblhau'r Strategaeth Gofalwyr fel mater brys. 7 Cwblhau'r adolygiad o'r Polisi Recriwtio a Dethol fel mater brys. Dylai hyn gynnwys ystyried hyrwyddo swyddi staff gwag a phrentisiaethau'n well i grwpiau gwahanol, ystyried hysbysebu'r rhain yn fwy gofalus i hybu cynrychiolaeth pobl Ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME), pobl anabl, Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol (LGBT), cyn-filwyr a menywod mewn rolau a ddominyddir gan ddynion (ac i'r gwrthwyneb). 8 Arwain ymgyrchoedd cadarnhaol i ddathlu amrywiaeth Abertawe a gweithredu'r polisi dim goddefgarwch ar gyfer gwahaniaethu. Defnyddio hanner canmlwyddiant Abertawe fel dinas i lansio'r hyn a fydd yn broses barhaol. Camau Gweithredu Tymor Canolig 9 Adolygu cyfleoedd hyfforddiant i sicrhau eu bod yn addas at y diben, gan gynnwys: a) Sicrhau bod mwy o staff yn ymgymryd â hyfforddiant ar gydraddoldeb, yn enwedig staff rheng flaen. b) Sicrhau bod rheolwyr canol wedi cwblhau hyfforddiant ac yn annog staff i wneud hynny. c) Datblygu hyfforddiant gyda grwpiau cydraddoldeb lle y bo'n bosib. ch) Sicrhau bod y cyfleoedd i wneud yr hyfforddiant yn cael eu hailadrodd yn rheolaidd, yn enwedig o ran rhagfarn ddiarwybod, gan ddefnyddio fformatau amgen a gwneud addasiadau rhesymol. d) Gweithio'n gallach gydag eraill i gyflawni'n dyletswydd yn dda drwy ymchwilio i rannu rhywfaint o'r gweithgareddau hyfforddi ac ymgynghori â sefydliadau mawr eraill a/neu gaffael ar y cyd i wella darbodion maint. 10 Cefnogi datblygiad parhaus y canolfannau cymunedol yn ardal y cyngor a sicrhau bod y staff yno'n derbyn hyfforddiant ar gydraddoldeb. 11 Mynd i'r afael â materion arwyddocaol o ran gwefan y cyngor fel a nodwyd yn yr adroddiad. Dylid datblygu materion allweddol drwy broses gyd-gynhyrchu. Ystyried defnyddio cyfleusterau 'hofran uwchben' ar gyfer geiriau allweddol lle y dangosir lluniau. Bod yn ystyriol o broblemau gyda dogfennau PDF/thablau i'r sawl sy'n darllen sgrîn. 12 Datblygu mwy o adnoddau hawdd eu darllen a Saesneg plaen. 13 Adeiladu ar ddatblygu Strategaeth Cydgynhyrchu gan gynnwys pecyn cymorth i'w ddefnyddio gan staff ledled yr awdurdod. 14 Casglu gwell data ar ein gweithlu a datblygu gwell adnoddau i annog staff i roi eu data personol, er enghraifft, yn seiliedig ar becyn cymorth gan Stonewall ‘what it has got to do with you’. Yn y dyfodol, adrodd am 'fylchau tâl megis anabledd a BAME', yn ogystal â rhywedd. 15 Datblygu rhaglen dreigl o gyfathrebiadau mewnol, dan arweiniad y Gr?p Cydraddoldeb Strategol, i hyrwyddo hyfforddiant, herio barn neu agweddau negyddol a rhoi negeseuon cadarnhaol i staff. Nodau Tymor Hwy 16 Parhau â chamau tuag at Abertawe'n dod yn Ddinas Hawliau Dynol; archwilio sut gallem ymgorffori Confensiwn y CU ar Hawliau Pobl ag Anableddau a Chonfensiwn y CU ar Ddileu Gwahaniaethu yn Erbyn Menywod yn yr un ffordd ag a wnaed gyda Chonfensiwn y CU ar Hawliau'r Plentyn. Sicrhau bod y confensiynau hyn yn cael eu hadlewyrchu yng Nghynllun Cydraddoldeb newydd y cyngor yn 2020. 17 Datblygu mwy o gyfleoedd i oedolion ag anableddau, gan gynnwys ystyried ehangu ein sylfaen menter gymdeithasol. 18 Gweithio gydag athrawon a dysgwyr i fynd i'r afael â materion ynghylch stereoteipio rhywiau mewn ysgolion, yn enwedig mewn perthynas â gweithgareddau chwaraeon. Argymhelliad i Gynghorwyr 19 Dylai cynghorwyr ymwneud yn fwy â grwpiau cydraddoldeb a bod yn fwy amlwg wrth wneud hyn. Dylid ystyried cynnal cymorthfeydd neu drafodaethau ar gyfer pobl ifanc, menywod, BAME, LGBT a phreswylwyr anabl. 4 CYDNABYDDIAETHAU Hoffai'r panel gofnodi ei ddiolch i'r bobl ganlynol a ddaeth i roi tystiolaeth i ni: * Rhwydwaith 50+ * Fforwm BME * Pobl Ifanc drwy'r Sgwrs Fawr * Fforwm LGBT * Tîm Joining the Dots * Fforwm Cyswllt Anableddau * Clwb Cyn-filwyr Abertawe * Gofalwyr a aeth i'r gr?p ffocws * Pennaeth Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru * Aelod y Cabinet dros Gymunedau Gwell (Pobl) * Aelod y Cabinet dros Drawsnewid a Pherfformiad Busnes * Prif Swyddog Cyfreithiol * Prif Swyddog Digidol a Thrawsnewid * Cynrychiolwyr Cydraddoldeb Staff * Cydlynydd Ymgynghori * Rheolwr Cyflwyno a Pherfformiad Strategol * Cyfarwyddwyr y Cyngor, Rheolwr DS ac AD Strategol * Yr holl bobl hynny a gyfrannodd at yr ymchwiliad drwy ein Galwad am Dystiolaeth cyhoeddus. 5 GWYBODAETH AM Y PANEL YMCHWILIO Corff o gynghorwyr nad ydynt yn aelodau'r Cabinet yw'r Panel Ymchwiliad Craffu Cydraddoldebau. Eu rôl yw archwilio mater strategol o bryder a gwneud argymhellion am sut y gellir gwella polisïau a gwasanaethau. Aelodaeth y Panel Louise Gibbard (Cynullydd) Lyndon Jones Sam Pritchard Erika Kirchner Terry Hennegan Susan Jones Yvonne Jardine Dr Gideon Calder (aelod cyfetholedig) Cefnogwyd yr ymchwiliad gan Michelle Roberts o Uned Craffu'r Cyngor. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: Michelle Roberts, Swyddog Craffu, Cyngor Abertawe Michelle.roberts@abertawe.gov.uk 01792 637256