Os oes angen gwybodaeth bellach arnoch mewn perthynas â’r blog hwn neu unrhyw fformatau amgen e.e. Print bras etc. ffoniwch 01792 637732 neu e-bostiwch craffu@abertawe.gov.uk
Bydd y Panel Ymchwiliad Craffu Cydraddoldebau yn cwrdd ar 26 Ionawr i asesu effaith yr Adroddiad Ymchwiliad Craffu Cydraddoldebau. Bydd cynghorwyr Craffu yn mynd ar drywydd y cynnydd a wnaed yn erbyn cyfres o argymhellion a gynigiwyd gan yr ymchwiliad y derbyniwyd pob un ohonynt gan y Cabinet yn ôl ym mis Tachwedd 2019.
Roedd yr Ymchwiliad yn ystyried ‘sut gall y cyngor wella’r ffordd y mae’n bodloni ac yn ymgorffori’r gofynion o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yng Nghymru 2011)’.
Daeth yr ymchwiliad i’r casgliad bod Cyngor Abertawe’n trin pobl yn deg and mae saith ffordd y gall y cyngor wella sut mae’n gwneud hyn:
- Cadw llygad agos ar y darlun cenedlaethol a sut mae’n effeithio arnom yn lleol
- Parhau i adeiladu ar yr ymrwymiad i gydraddoldeb ac amrywiaeth sydd eisoes yn amlwg yn y cyngor
- Sicrhau bod polisïau, arfer a phrosesau effeithiol ar waith sy’n bodloni’r Ddyletswydd Cydraddoldeb ac yn helpu i’w hymgorffori
- Gwella hygyrchedd gwasanaethau’r cyngor
- Gwella sut rydym yn gweithio gyda phobl eraill ac yn dysgu ganddynt
- Parhau i wella sut rydym yn ymgynghori ac yn ymgysylltu
- Diogelu cenedlaethau’r dyfodol.
Bydd y cyfarfod dilynol hwn yn agored i’r cyhoedd, ac mae croeso i aelodau’r cyhoedd gyfrannu. E-bostiwch unrhyw gwestiynau neu bwyntiau yr hoffech eu codi i craffu@abertawe.gov.uk
Mae dolenni i fersiynau gwahanol o’r adroddiad ymchwiliad craffu ar gael isod:
- Adroddiad Ymchwiliad Craffu Cydraddoldebau
- Crynodeb o’r Adroddiad
- Testun yn unig
- Hawdd ei ddarllen
- Adroddiad Pobl Ifanc
Cliciwch isod i weld adroddiad Aelod y Cabinet:
Leave a Comment