Beth yw Craffu?

Diben craffu (neu drosolwg a chraffu, i roi ei deitl llawn iddo) yw cyfrannu at ddatblygu polisïau, diogelu a gwella gwasanaethau lleol a gwneud Cabinet yr awdurdod lleol ac eraill sy’n gwneud penderfyniadau lleol yn atebol. Mae craffu’n debyg i waith pwyllgorau dethol San Steffan ac mae ei aelodau’n dod o blith cynghorwyr nad ydynt yn rhan o’r Cabinet.  Yn Abertawe, nod trosolwg a chraffu yw:

Bod yn ‘gyfaill beirniadol’ i herio’r weithrediaeth (a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau) drwy ymgymryd ag ystod o weithgareddau i sicrhau bod gwelliant yn cael ei gyflwyno, ei gynnal a’i ymgorffori

Yn ymarferol, mae gwaith trosolwg a chraffu’n dilyn pedwar cam:

  •       Cynllunio gwaith i nodi materion a phenderfynu sut i’w harchwilio
  •       Casglu tystiolaeth drwy ymgynghori ac ymchwil
  •       Gwneud argymhellion i’r Cabinet, y cyngor a chyrff eraill sy’n gwneud penderfyniadau.
  •       Olrhain i wirio bod camau gweithredu y cytunwyd arnynt wedi’u cymryd a’u bod wedi cael effaith

Yn ôl y gyfraith, crëwyd trosolwg a chraffu dan Adran 21 Deddf Llywodraeth Leol 2000..  Mae hyn yn golygu bod rhaid i bob cyngor lleol gael o leiaf un pwyllgor trosolwg a chraffu.

Yn Abertawe, mae un Pwyllgor y Rhaglen Graffu sy’n dirprwyo gwaith i grwpiau tasg a gorffen anffurfiol gan gynnwys:

  • Paneli Ymchwilio – mae ymchwiliadau’n ddarnau o waith manwl sy’n casglu ystod eang o dystiolaeth i ddod i gasgliadau a gwneud argymhellion ar faterion mawr o bryder.  Mae ymchwiliad fel arfer yn cymryd tua 6 mis i’w gwblhau.
  • Paneli Perfformiad – mae’r paneli hyn yn canolbwyntio ar un agwedd ar wasanaethau’r cyngor ac yn monitro perfformiad yn rheolaidd, gan amlygu’r pethau da ond hefyd yn codi materion o bryder ac yn cyflwyno argymhellion ar gyfer gwella lle bo angen.
  • Gweithgorau – fel arfer cyfarfodydd untro cyflym i ystyried pwnc sy’n peri pryder.

Nod trosolwg a chraffu yw ceisio cynnwys pobl leol yng ngwaith y cyngor.   Cynhelir y cyfarfodydd yn gyhoeddus ac mae croeso i unrhyw un ddod i wylio a gwrando.  Mae gwefan y cyngor yn nodi manylion y cyfarfodydd, agendâu, cofnodion ac adroddiadau ar-lein.  Mae mwy o wybodaeth am drosolwg a chraffu ar gael ar ein tudalennau sydd ar yr un wefan. Gallwch gael mwy o wybodaeth gyffredinol am drosolwg a chraffu o’r Ganolfan Craffu Cyhoeddus sef sefydliad cenedlaethol annibynnol sy’n hyrwyddo craffu da ar bob lefel o lywodraeth.