Brexit – Ydyn Ni’n Barod?

Bydd Cynghorwyr Gweithgor Craffu Brexit yn cwrdd ar 23 Medi i drafod pa mor barod rydym ni fel awdurdod lleol ar gyfer Brexit.

Er mwyn cael y diweddaraf am y gweithgor hwn, cliciwch ar y ddolen uchod.

Bydd y Gweithgor Craffu Brexit yn cwrdd ar 23 Medi i drafod pa mor barod rydym ni fel awdurdod lleol ar gyfer Brexit.

Trefnir yn y lle cyntaf fel cyfarfod untro a bydd yn cynnwys trafodaethau gydag Aelod y Cabinet a’r swyddogion perthnasol er mwyn casglu gwybodaeth, gofyn cwestiynau a mynegi unrhyw bryderon ynghylch pa mor barod yw’r cyngor ar gyfer Brexit; sut mae hyn yn cael ei drafod; pa gynlluniau/rhagofalon a drefnir wrth ystyried yr effaith bosib a pherthynas Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Cyfarfod agored yw hwn ac mae croeso i aelodau’r cyhoedd ddod iddo. Cynhelir y cyfarfod am 4.30pm ar 23 Medi yn Ystafell Bwyllgor 5 yn Neuadd y Ddinas, Abertawe.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.