Yn chwilio am adroddiad?

Cyhoeddir gwaith craffu mewn dwy ffordd: mewn adroddiadau manwl a thrwy gofnodion cyfarfodydd y cyngor.

Gallwch ganfod adroddiadau manwl ar graffu, sy’n dyddio yn ôl i 2006, yn ein Llyfrgell Adroddiadau Craffu .  Ar gyfer darnau o waith manwl mae canfyddiadau adroddiadau hefyd ar gael.  Mae’r rhain yn rhoi crynodeb o’r holl dystiolaeth a roddwyd i adolygiad neu ymchwiliad penodol.

Mae adroddiadau eraill, gan gynnwys llythyron gan gadeiryddion a ysgrifennwyd gan graffu i aelodau’r cabinet, ar gael yn y pecynnau agenda a gyhoeddir ar gyfer pob cyfarfod ffurfiol y cyngor gan gynnwys cyfarfodydd y cabinet a chyfarfodydd y pwyllgorau craffu.

Os ydych yn gwybod ym mha gyfarfod y cyflwynwyd yr adroddiad, gallwch ganfod y pecyn agenda ar dudalen Pwyllgor y Cyngor – cyfarfodydd, agendâu, adroddiadau a chofnodion. Hefyd ceir cyfleuster chwilio, os nad ydych yn gwybod yr union gyfarfod.