Darparu gwasanaethau cynaliadwy i blant a theuluoedd

Yr wythnos ddiwethaf, cynhaliwyd cyfarfod chwarterol y Panel Perfformiad Lles a edrychodd ar berfformiad yn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd. Roedd yn falch gan y panel weld bod llai nag 8 plentyn yn derbyn gofal ar ddiwedd mis Awst o gymharu â’r mis blaenorol a bod niferoedd y plant sy’n derbyn gofal wedi bod ar duedd i lawr ers mis Ebrill. Mae niferoedd y plant sy’n derbyn gofal yn dal yn uchel yn Abertawe ac mae gan hyn oblygiadau o ran y gyllideb.

discursive-families-feature-624x415

Y pryder mwyaf i’r panel oedd y gorwario parhaus yn y gyllideb ar gyfer Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ac effaith hyn ar gynaladwyedd gwasanaethau a ddarperir i blant a theuluoedd sy’n agored i niwed. Pwysleisiodd Cynghorwyr ar y panel bwysigrwydd trafodaethau cynnar o fewn yr adran am sut parheir i ddarparu gwasanaethau o fewn cyllideb lawer tynnach. Mae rhaid i’r Cyngor wneud arbedion o tua £45 miliwn yn ystod y tair blynedd nesaf a rhaid i bob adran gyfrannu at y gyllideb hon. Cytunodd y cynghorwyr ar y panel bod angen eu sylw ar gyllideb a gorwario’r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd. Cytunodd pob cynghorydd y cynhelir cyfarfod panel a fydd yn canolbwyntio ar hyn yn yr wythnosau sydd i ddod ac y gwahoddir yr Aelod Cabinet ar gyfer Lles, y Cynghorydd Mark Child, i fod yn bresennol i ateb cwestiynau gan y panel.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.