Sicrhau bod ein gofalwyr gofal yn derbyn y gefnogaeth orau

Treuliodd y Panel Perfformiad Lles beth amser yr wythnos hon yn dilyn yr ymchwiliad “Cefnogaeth i’r Rhai sy’n Gadael Gofal“ a gwblhawyd ym mis Mawrth 2012. Mae’r cam dilynol hwn yn rhan bwysig iawn o’r broses graffu oherwydd ei fod yn galluogi cynghorwyr i sicrhau bod yr argymhellion a dderbyniwyd gan yr Aelod Cabinet wedi eu gweithredu.

discursive-families-feature-624x415

Mae cefnogaeth o safon i bobl ifanc sy’n gadael gofal yr awdurdod lleol yn hanfodol os yw ein pobl sy’n gadael gofal yn mynd ymlaen i arwain bywydau llwyddiannus ac annibynnol fel oedolion.

Dysgodd y panel gan swyddogion y cafwyd cynnydd da gyda gweithredu’r rhan fwyaf o’r 16 argymhelliad. Ond roedd gan y panel rai pryderon ynghylch effeithiolrwydd y gwasanaethau cefnogi a gomisiynwyd gan y Cyngor oddi wrth Barnardos. Roedd Cynghorwyr ar y panel yn teimlo bod materion ynghylch ansawdd ac effeithiolrwydd y gwasanaeth hwn, a nodwyd bod gan yr ymchwiliad ym mis Mawrth 2012 bod angen mynd i’r afael â nhw’n llawn.

Roedd Cynghorwyr yn awyddus i weld y mater hwn yn cael ei ddatrys oherwydd yr effaith bosib ar y canlyniadau i rai sy’n gadael gofal a’r gyllideb. Mynegwyd pryderon gan y Cynghorwyr hefyd am gynnydd gyda’r argymhelliad ynghylch hyfforddiant ar gyfer y rhai sy’n gadael gofal am sgiliau bywyd a’r pontio i fyw’n annibynnol.

Y pryderon hyn a arweiniodd y cynghorwyr i gytuno bod angen adroddiad dilynol pellach fel eu bod yn gallu teimlo’n fodlon y gweithredwyd yr argymhellion y cytunwyd arnynt. Bydd y panel yn derbyn yr adroddiad dilynol terfynol ymhen pedwar mis.

Cynhaliodd y panel hefyd ei fonitro perfformiad chwarterol rheolaidd o‘r Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion. Pryder allweddol y cynghorwyr oedd yr amcanestyniad blynyddol ar gyfer oedi wrth drosglwyddo gofal a adwaenir hefyd fel “blocio gwelyau”. Roedd y panel yn awyddus i bwysleisio pwysigrwydd lleihau’r niferoedd lle ceir oedi cyn eu rhyddhau o’r ysbyty, ac roedd swyddogion yn cytuno â hyn. Bydd hyn yn rhywbeth y bydd y panel yn dychwelyd ato yn y sesiwn monitro perfformiad chwarterol nesaf.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.