Adroddiadau Craffu – Ionawr 2014

 

Bob mis, mae’r cyngor yn cael diweddariad gan yr Adran Graffu am y gwaith mae wedi bod yn ei wneud. Ei nod yw gwella’r penawdau, yn nodweddiadol gydag un brif stori bob tro, i godi ymwybyddiaeth a gwelededd y gwaith ac effaith craffu.

news

Dyma grynodeb y mis hwn:

1. Craffu dan sylw: buddsoddi i fwyafu ei effaith (Arweinydd: y Cynghorydd Mike Day)

Cyflwynwyd rhai negeseuon pwysig am ddyfodol craffu yn y gynhadledd genedlaethol a gynhaliwyd ar 28 Tachwedd yng Nghaerdydd. Daeth dros 250 o gynghorwyr a swyddogion o bob rhan o Gymru (gan gynnwys y Cynghorwyr Mike Day, Paxton Hood-Williams, a Christine Richards) ynghyd i siarad am rôl craffu, rhannu profiadau a dysgu.

Roedd siaradwyr y gynhadledd, gan gynnwys Lesley Griffiths AS, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, ac Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn rhannu cipolwg i sut bydd angen i’r swyddogaeth graffu edrych os bydd yn bodloni galw amgylchedd sector cyhoeddus tra newidiol yn y dyfodol a sut mae’n rhaid i graffu addasu, esblygu ac ailddyfeisio’i hun i fodloni’r heriau sylweddol.

Roedd y negeseuon allweddol o’r gynhadledd yn cynnwys:

  • Mae democratiaeth gref yn mynd trwy bopeth o wella gwasanaethau i lywodraethu da. Craffu yw enaid hyn
  • Craffu yw’r gwasanaeth buddsoddi i arbed clasurol – yng ngoleuni heriau ariannol, mae’n iawn buddsoddi amser ac adnoddau mewn craffu fel gweithgaredd sy’n ychwanegu gwerth.
  • Mae ‘gwynt oer dirwasgiad’ yn golygu bod craffu gwariant cyhoeddus yn effeithiol yn bwysicach nag erioed
  • Dylai craffu ac atebolrwydd fod yn rhan o ddylunio cydweithio
  • Bydd methu gosod prosesau craffu effeithiol, ar bob lefel, yn arwain at golled sylweddol yn hyder y cyhoedd.
  • Bydd hunanwerthuso a chraffu effeithiol yn arwain at reoliadau ysgafnach
  • Gyda’r heriau mae gwasanaethau cyhoeddus a chymunedau’n eu hwynebu, ni fydd craffu cyfartalog neu anghyson yn ddigon: mae’n rhaid i gydweithwyr herio arfer gwael, bod yn hunanfeirniadol a dysgu gan brofiad pobl eraill o beth sy’n gweithio
  • Bydd adroddiad ar Astudiaeth Gwella Craffu gan Swyddfa Archwilio Cymru y bu pob awdurdod Cymru’n rhan ohoni dros y flwyddyn ddiwethaf yn cael ei gyhoeddi’n fuan.

Trefnwyd y digwyddiad gan Lywodraeth Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru, CLlLC, y Ganolfan Craffu Cyhoeddus ac Ysgol Fusnes Caerdydd.

2. Argymhellion craffu ar dai fforddiadwy a ystyrir gan y cabinet (Arweinydd: Y Cynghorydd Terry Hennegan)

Ymatebodd y Cabinet yn ffurfiol i adroddiad yr Ymchwiliad Craffu Tai Fforddiadwy ar 3 Rhagfyr. Roedd yr ymchwiliad wedi ystyried sut gallai’r cyngor a’i bartneriaid gynyddu cyflenwad cyffredinol tai fforddiadwy yn Ninas a Sir Abertawe. Cytunodd y Cabinet i 9 o’r 13 chymhelliant (cytunwyd i 2 yn rhannol) a lluniwyd cynllun gweithredu. Mae hyn yn golygu cynnydd ar nifer o’r materion a amlygwyd, gan gynnwys: codi proffil tai fforddiadwy yn y Cynllun Integredig Sengl a gweithio gyda phartneriaid i gynyddu cyflenwad tir cyhoeddus ar gyfer tai fforddiadwy. Bydd panel yr ymchwiliad yn monitro’r cynllun gweithredu dros y flwyddyn nesaf ac yn adrodd yn ôl i Bwyllgor y Rhaglen Graffu ei farn am gynnydd a rhoi argymhellion ar waith.

3. Sut mae craffu’n herio ysgolion? (Arweinydd: Y Cynghorydd Jennifer Raynor)

Wedi’i sefydlu ym mis Ebrill, mae’r Panel Craffu Perfformiad Ysgolion wedi datblygu cynllun gwaith am y flwyddyn ac mae’n canolbwyntio ar ddarparu her barhaol i ysgolion ar wella safonau a chyrhaeddiad disgyblion. Ers y diweddariad diwethaf ym mis Gorffennaf, mae’r panel wedi siarad â’r arweinwyr systemau, y penaethiaid a chadeiryddion y llywodraethwyr (neu’r bobl gyfatebol) ar gyfer Canolfan Addysg Cyfnod Allweddol 4 ac Ysgol Gynradd Portmead.  Hefyd, ymwelodd y panel â’r tair uned cyfeirio disgyblion i ystyried eu cyfaddasrwydd corfforol at eu diben. Mae aelodau’r panel hefyd wedi bod yn datblygu eu gwybodaeth am sut mae’r awdurdod yn asesu ac yn pennu cefnogaeth i ysgolion i’w helpu i wella’u perfformiad.

Ym mis Rhagfyr, bydd y panel yn adolygu asesiadau’r awdurdod o berfformiad yr holl ysgolion a’r data perfformiad perthnasol, gan gynnwys cyrhaeddiad a phresenoldeb ysgol. Bydd y panel yn cadw llygad ar ddeilliannau arolygiad Estyn ysgolion unigol i helpu i gynllunio’i waith yn y dyfodol. Yn y flwyddyn newydd, bydd y panel yn siarad â dwy ysgol arall a bydd wedyn yn gwerthuso’u gwaith dros y flwyddyn ym mis Ebrill er mwyn asesu a gwella’i effeithiolrwydd fel panel.

4. Pa wahaniaeth y mae Bwrdd Gwasanaethau Lleol Abertawe’n ei wneud i ddinasyddion? (Arweinydd: Y Cynghorydd Clive Lloyd)

Cytunwyd i sefydlu Panel Perfformiad Craffu amlasiantaeth newydd i archwilio’r union gwestiwn hwn. Bydd cynghorwyr craffu a chynrychiolwyr anweithredol o asiantaethau partner yn dod at ei gilydd i ystyried gweithgarwch a pherfformiad y Bwrdd Gwasanaethau Lleol fel partneriaeth, er enghraifft trwy archwilio:

  • Pa mor dda mae Cynllun Abertawe’n Un wedi’i ddatblygu a’i adolygu?
  • Pa mor effeithiol mae Cynllun Abertawe’n Un wedi’i gyflwyno?
  • Faint o werth ychwanegol y mae’r Bwrdd Gwasanaethau Lleol wedi’i gyflawni?

Mae’r ymagwedd hon wedi’i chefnogi gan y Bwrdd Gwasanaethau Lleol a bydd recriwtio aelodau panel nawr yn dechrau gyda’r cyfarfod cyntaf a gynhelir yn y flwyddyn newydd, yn gweithredu i ddechrau mewn modd dysgu a datblygu i osod y sylfeini ar gyfer craffu effeithiol.

5. Yn chwilio am adroddiad? (Arweinydd: y Cynghorydd Mike Day)

Cyhoeddir gwaith craffu mewn dwy ffordd: mewn adroddiadau manwl annibynnol a thrwy gofnodion cyfarfodydd y cyngor. Mae ein holl adroddiadau ymchwilio i’w gweld yn ein ‘Llyfrgell Adroddiadau Craffu’ ar y wefan craffu. Gallwch bori trwy bob adroddiad ymchwiliad/adolygiad a gynhaliwyd gan y cynghorwyr craffu ers 2006. Ar gyfer darnau o waith manwl, mae adroddiadau canfyddiadau hefyd ar gael. Mae’r rhain yn darparu crynodeb o’r holl dystiolaeth a roddwyd i adolygiad neu ymchwiliad penodol. Mae ein hadroddiadau blynyddol hefyd ar gael yma. Mae adroddiadau eraill, gan gynnwys ‘Llythyrau’r Cadeiryddion’, a lunnir gan yr Adran Graffu i aelodau’r Cabinet, i’w gweld yn y pecynnau agenda ar gyfer Pwyllgor y Rhaglen Graffu.
Cydnabyddiaeth llun: http://flic.kr/p/e4Bdjc

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.