Adroddiadau Craffu – Mawrth 2014

Bob mis, mae’r cyngor yn cael diweddariad gan yr Adran Graffu am y gwaith mae wedi bod yn ei wneud. Ei nod yw darparu’r penawdau, fel arfer gydag un brif stori bob tro, i gynyddu ymwybyddiaeth a gwelededd o waith ac effaith craffu.

news

 

 

 

 

 

Dyma grynodeb y mis hwn:

1. Pwysigrwydd Hunanwerthuso

(Arweinydd: y Cynghorydd Mike Day)

Mae’r model craffu rydym wedi’i fabwysiadu’n ddiweddar yn Abertawe wedi bod yn denu diddordebgan Weinidog Llywodraeth Cymru dros Lywodraeth Leol a chynghorau eraill yng Nghymru. Fodd bynnag, rhaid i graffu geisio gwella’i hun drwy’r amser, yn enwedig os yw’n dymuno dylanwadu ar eraill yn fewnol ac yn allanol i wneud yr un peth. Mae gwerthuso gweithrediad ac effeithiolrwydd craffu – dysgu o brofiad, casglu adborth a nodi’r hyn sy’n gweithio a’r hyn y mae’n rhaid mynd i’r afael ag ef – yn hanfodol. Cymerodd nifer o gynghorwyr, sy’n rhan o’r broses, ran yn ddiweddar mewn gweithdy i wneud hynny. Daeth Pwyllgor y Rhaglen Graffu ynghyd â’r cynghorwyr hynny sydd wedi gweithredu fel cynullyddion dros y flwyddyn ddiwethaf i fyfyrio ar y flwyddyn hyd yma.

Rhoddodd y gweithdy, a gynhaliwyd ar 27 Ionawr, gyfle i:

  • adolygu’r ffordd y mae Pwyllgor y Rhaglen Graffu wedi gweithio ers ei sefydlu ym mis Hydref 2012
  • ystyried cynnydd gweithgareddau craffu ac unrhyw broblemau sy’n ymwneud ag arfer a phrofiad craffu (gan gynnwys ymagweddau i gwestiynu)
  • creu syniadau a fydd yn helpu i wella’r ffordd rydym yn gweithio

Defnyddiwyd ymarfer gr?p hunanwerthuso i helpu cynghorwyr i fyfyrio a mesur ein safle yn erbyn amrywiaeth o feini prawf derbyniol ar gyfer craffu da. Yn ogystal â llawer o fyfyrio cadarnhaol ynghylch arfer cyfredol, codwyd sawl mater, sy’n cael eu troi’n gynlluniau gweithredu ar hyn o bryd. Mae rhai’n ymwneud â’r canlynol:

  • Rhaglen waith craffu – e.e. teilwra ymagweddau at faterion penodol, sicrhau’r gallu i fynd i’r afael â materion pwysig sy’n codi, rheoli llwythi gwaith
  • Paratoi ar gyfer cyfarfodydd – e.e. ymagwedd gyson at ddatblygu strategaethau cwestiynu, cynnal cyfarfodydd ymlaen llaw, hyfforddiant ar sgiliau/technegau cwestiynu
  • Canlyniadau craffu – e.e. cynnal cyfarfodydd ymlaen llaw/sesiynau briffio i fyfyrio ar effeithiolrwydd cyfarfodydd ac egluro barn ar wybodaeth/y dystiolaeth a gasglwyd
  • Olrhain argymhellion craffu – e.e. olrhain yn brydlon ac egluro’r broses, tynnu sylw at effeithiau/canlyniadau craffu i dynnu sylw at y gwahaniaeth a wnaed y gellir ei rannu’n eang
  • Cynnwys y cyhoedd – e.e. cael cynllun clir, cynyddu ymwybyddiaeth drwy amrywiaeth o ddulliau, hyrwyddo’r effaith

2. Beth mae Comisiwn Williams yn ei ddweud am graffu?

Er y cafwyd penawdau gan Gomisiwn Williams am ad-drefnu posib ar gyfer llywodraethau lleol, mae’r adroddiad a gyhoeddwyd ar 20 Ionawr yn dweud llawer am rôl craffu wrth wneud sefydliadu’n atebol, gwella gwasanaethau a chynnwys dinasyddion ac mae’n gwneud sawl argymhelliad.

Mae negeseuon allweddol i’r llywodraeth yn cynnwys:

  • Rhaid cydnabod, blaenoriaethu, cynnal ac atgyfnerthu pwysigrwydd, statws a gwerth craffu yn barhaus.
  • Rhaid i sefydliadau feddwl am graffu fel buddsoddiad i gyflwyno gwelliannau ac arbedion yn y dyfodol
  • Rhaid i wasanaethau craffu gynnwys y cyhoedd a phartneriaid yn fwy effeithiol

3. Rydym wedi dechrau casglu tystiolaeth

Mae gan y gwasanaeth craffu bum Panel Ymchwilio dwys ar waith ar hyn o bryd ac mae pob un wrthi’n brysur yn casglu tystiolaeth. Mae’r ymchwiliadau hyn yn ystyried:

  • Mewnfuddsoddi (cynghorydd arweiniol: Jeff Jones)
  • Cynnwys y Cyhoedd (cynghorydd arweiniol: y Cyng. Joe Hale)
  • Strydlun (cynghorydd arweiniol: y Cyng. John Bayliss)
  • Gofal Cymdeithasol yn y Cartref (cynghorydd arweiniol: y Cyng. Jane Harris)
  • Cynhwysiad Addysg (cynghorydd arweiniol: y Cyng. Cheryl Philpott)

Disgwylir cwblhau’r ymholiadau dwys o fewn chwe mis ac yna cyhoeddir adroddiad terfynol gan bob panel gyda chasgliadau ac argymhellion, yn ôl y dystiolaeth a gasglwyd, a gyflwynir i’r cabinet i wneud penderfyniad arnynt.

4. Y cabinet yn derbyn yr argymhellion craffu ar dwristiaeth

(Arweinydd: Y Cynghorydd John Newbury)

Ymatebodd y Cabinet yn ffurfiol i’r adroddiad Ymchwilio Craffu i Dwristiaeth ar 14 Ionawr. Roedd yr ymchwiliad wedi ystyried a ydyn ni’n manteisio i’r eithaf ar botensial Abertawe fel cyrchfan i ymwelwyr gan gynnwys cynyddu’r manteision economaidd i Abertawe. Mae’r Cabinet wedi cytuno ar yr holl argymhellion ac mae wedi darparu cynllun gweithredu. Bydd panel yr ymchwiliad yn monitro’r cynllun gweithredu dros y flwyddyn nesaf ac yn adrodd yn ôl i Bwyllgor y Rhaglen Graffu ei farn am gynnydd a rhoi argymhellion ar waith.

5. Mwy o graffu os gwelwch yn dda!

(Arweinydd: Y Cynghorydd Paxton Hood-Williams)

Wrth ymwneud â’r rôl bwysig o fonitro perfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion a Phlant a Theuluoedd, mae’r Panel Perfformiad Craffu Lles wedi gwella’i weithgarwch ac mae bellach yn cwrdd bob pythefnos i wneud y gwaith hwn. Bydd hyn yn sicrhau bod gan bob cyfarfod Panel ffocws a bydd yn rhoi’r gallu i gynghorwyr archwilio perfformiad y meysydd hyn yn ddwys. Fel Paneli Perfformiad eraill, mae’r Panel yn mynegi ei farn ar gyflwyno gwasanaethau a pherfformiad trwy lythyrau at aelod(au’r) Cabinet. Mae’r Panel hwn yn gohebu’n rheolaidd â’r Cyng. Mark Child, Aelod y Cabinet dros Les, y mae gofyn iddo ymateb i sylwadau ac argymhellion gan y Panel.

6. Oes gennych bwnc i’w graffu arno?

(Arweinydd: y Cynghorydd Mike Day)

Cynhelir y Gynhadledd Cynllunio Gwaith Craffu ym mis Mai 2014. Cyn hynny, anogir yr holl gynghorwyr i gyfrannu syniadau am bynciau yn y dyfodol. Felly, os oes mater o bryder am unrhyw wasanaeth cyhoeddus lle gallai craffu wneud gwahaniaeth, dylid anfon y rhain at gadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu neu’r Tîm Cefnogi Craffu. Caiff unrhyw argymhellion eu hystyried a’u blaenoriaethu i sicrhau bod craffu ar y rhaglen waith yn effeithiol yn y dyfodol ac yn canolbwyntio ar y pethau cywir. Gall cynghorwyr fwydo syniadau yngl?n â phynciau’r dyfodol ar gyfer craffu arnynt trwy’r Arolwg Rhanddeiliaid Craffu Blynyddol a gyhoeddir ym mis Mawrth. Bydd y Rhaglen Gwaith Craffu hefyd yn cynnwys sylwadau gan staff, y cyhoedd a phartneriaid.

Llun: http://flic.kr/p/e4Bdjc

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.