Adroddiadau Craffu – Gorffennaf 2014

Bob mis, mae’r cyngor yn derbyn diweddariad gan yr Adran Graffu am y gwaith mae wedi bod yn ei wneud. Ei nod yw darparu’r penawdau, fel arfer gydag un brif stori bob tro, i gynyddu ymwybyddiaeth a gwelededd o waith ac effaith craffu.

news

 

 

 

 

 

Dyma grynodeb y mis hwn:

1. Gwella effaith craffu (Arweinydd: y Cynghorydd Mike Day)

Mae Pwyllgor y Rhaglen Graffu wedi gwneud gwella effaith craffu yn flaenoriaeth ar gyfer y flwyddyn i ddod ac wedi cytuno ar weithdrefnau i gefnogi hyn.

Mae canolbwyntio ar ddeilliannau ac effaith yn addas gan fod trefniadau newydd ar waith a nifer o ymholiadau dwys a gweithgareddau craffu eraill wedi’u cyflawni.

Yn seiliedig ar ‘nodweddion craffu effeithiol’ a ddatblygwyd yn ddiweddar gan Rwydwaith Swyddogion Craffu Cymru, nodwyd cyfres o weithrediadau y gall y pwyllgor, cynullyddion panel a chynghorwyr craffu eu cyflawni i wella effaith craffu .

Mae’r cynllun gweithredu yn canolbwyntio ar:

  • gydlynu craffu cyn penderfynu
  • gwella gwahanol gamau o’r ‘dull’ ymchwilio
  • ehangu cyfranogiad wrth osod cwestiynau gan gynghorwyr a’r cyhoedd, a
  • gwella cynnwys y cyhoedd

Mae’r rhan fwyaf o’r gweithredoedd yn gysylltiedig ag ymholiadau craffu gan eu bod yn darparu’r cyfleoedd gorau i gael effaith. Ymysg y rhain, bydd y pwyllgor yn gweithio i sicrhau bod canlyniadau mesuradwy yn cael eu sefydlu ar ddechrau ymholiadau yn y dyfodol, bod ymholiadau yn gofyn cwestiynau sy’n ‘seiliedig ar ganlyniadau’, bod deialog adeiladol â’r Cabinet am adroddiadau ymholi a’u heffaith, a bod tystiolaeth effaith yn cael ei chyfleu’n eang. Mae adroddiadau ymateb ac adroddiadau dilynol y Cabinet wedi’u diwygio yn unol â hynny.

Mae diddordeb gan y pwyllgor mewn amrywiaeth o ymagweddau i fesur a gwella effaith megis Atebolrwydd ar Sail Canlyniadau a Enillion ar Fuddsoddi a bydd yn ystyried sut y gall dysgu o’r dulliau hyn gael ei ddefnyddio wrth graffu yn Abertawe.

2. Gweinidog Cymru yn canmol Craffu Abertawe

Roedd canmoliaeth i drefniadau craffu Abertawe yng Nghynhadledd Flynyddol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru gan Lesley Griffiths AC, Gweinidog dros Lywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth.

Gwnaeth Gweinidog Llywodraeth Leol nodi Abertawe, yn ogystal â Phen-y-bont ar Ogwr, fel enghreifftiau da o arfer gorau ar gyfer craffu yn ei haraith am drefn lywodraethu dda a gyflwynwyd i gynrychiolwyr o bob cyngor yng Nghymru.

Amlygodd yr angen i rannu dysgu ag eraill am effaith gadarnhaol craffu da ac effaith negyddol craffu cyfyngedig neu wael.

3. Cabinet yn ymateb i argymhellion yr Ymchwiliad Cyrhaeddiad a Lles (Arweinydd: Y Cynghorydd Fiona Gordon)

Ymatebodd y Cabinet yn ffurfiol i’r adroddiad Ymchwilio Craffu Cyrhaeddiad a Lles ar 1 Gorffennaf. Roedd yr ymchwiliad yn ystyried sut gall ysgolion, y cyngor a phartneriaid wella lles mewn ysgolion. Mae’r Cabinet wedi croesawu’r adroddiad ac wedi cytuno ar bob un o’r 12 argymhelliad a wnaed gan y panel a’r camau gweithredu i’w rhoi ar waith.  Bydd panel yr ymchwiliad yn monitro’r camau gweithredu hyn dros y flwyddyn nesaf ac yn adrodd yn ôl i Bwyllgor y Rhaglen Graffu ei farn am gynnydd ac effaith yr ymchwiliad.  Roedd argymhellion y panel yn canolbwyntio ar sicrhau bod ysgolion yn cydnabod y cysylltiad rhwng lles emosiynol a chyrhaeddiad, a bod angen i blant yn bennaf oll deimlo’n hapus ac yn ddiogel er mwyn bod yn barod i ddysgu yn yr ystafell ddosbarth. Cydnabu’r Cabinet hefyd fod nifer o’r argymhellion yn ymwneud â llywodraethwyr ysgolion a bod angen mwy o waith i archwilio i faterion sy’n ymwneud ag arfer gorau a gofynion hyfforddiant gorfodol i lywodraethwyr ysgolion.

4. Craffu ariannol mewn cyfnod heriol (Arweinydd: Y Cynghorydd Mary Jones)

Mynychodd gynghorwyr a swyddogion Abertawe lansiad arweiniad newydd i awdurdodau lleol Cymru gan gynnig cyngor ar sut y gall craffu ychwanegu gwerth i gynllunio ariannol a rheoli arian.

Mae’r arweiniad, a grëwyd gan y Ganolfan Craffu Cyhoeddus, yn amlygu bod rhaid i graffu ddangos ei fod yn ychwanegu gwerth at bob cam o’r broses ariannol – y broses pennu cyllideb ei hun, pennu blaenoriaethau ymysg galw cystadleuol, defnydd effeithiol o gyllid a sut mae monitro a rheoli arian yn faterion allweddol sydd angen her effeithiol. Mae’n defnyddio arfer da presennol gan Awdurdodau Lleol Cymru a Lloegr i ddarparu cyngor a syniadau ymarferol ar sut y gall cynghorau lleol sicrhau craffu ac atebolrwydd effeithiol o’r defnydd o arian cyhoeddus.

Bydd y Panel Gwella Gwasanaethau a Pherfformiad Cyllid Craffu yn derbyn adborth o’r lansiad ac yn ystyried yr arweiniad i helpu i hysbysu ei waith.

Mae’r arweiniad ar gael i’w lawrlwytho yn: www.cfps.org.uk/publications.

5. Protocol cyfethol: cynnwys y cyhoedd

Mae Pwyllgor y Rhaglen Graffu wedi datblygu protocol cyfethol i sicrhau ymagwedd gyson y dylid ei mabwysiadu ar draws Paneli Craffu a Gweithgorau.

Mae’r protocol yn amlinellu manteision cyfethol a’r meddylfryd y dylid ymgymryd ag ef i hysbysu orau unrhyw benderfyniadau am gyfethol. Fe’i dyluniwyd i roi eglurder i gynullyddion a chynghorwyr craffu am ba gamau i’w cymryd. Mae’n amlygu pwysigrwydd rhesymeg glir, derbyn cyngor a sicrhau nad oes unrhyw ddiddordebau posib sy’n gwrthdaro.

Mae’n bwysig cofio yr oedd ffyrdd gwahanol o gynnwys pobl yn y gwaith craffu. Mae’r protocol yn pwysleisio y dylid cael achos cryf ar gyfer cyfethol rhywun a fyddai’n gweithio ar y cyd ag aelodau craffu i gyflawni’r gwaith yn hytrach na rhoi tystiolaeth. Roedd y pwyllgor yn cydnabod pwysigrwydd hysbysebu gwaith craffu i sicrhau bod y cyhoedd yn ymwybodol o waith a chyfleoedd y gallant fod yn rhan ohono.

Llun: http://flic.kr/p/e4Bdjc

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.