Adroddiadau Craffu – Cael Effaith

Mae Adroddiadau Craffu bellach yn adroddiad chwarterol am effaith craffu sy’n dangos sut mae craffu’n gwneud gwahaniaeth, gydag enghreifftiau o ganlyniadau a chyflawniadau penodol.

news

 

 

 

 

 

Dyma’r crynodeb diweddaraf:

1. Manteisio i’r eithaf ar botensial Abertawe fel cyrchfan i dwristiaid (Arweinydd: Y Cynghorydd John Newbury)

Ym mis Ionawr 2014 derbyniodd y Cabinet holl argymhellion y Panel Ymchwilio Craffu Twristiaeth a chytunodd ar gynllun gweithredu. Roedd y panel wedi ymgymryd ag ymchwiliad a oedd yn ystyried a ydyn ni’n manteisio i’r eithaf ar botensial Abertawe fel cyrchfan i dwristiaid, gan gynnwys mwyafu’r manteision economaidd i Abertawe.

Roedd rhai casgliadau allweddol o’r ymchwiliad hwn yn cynnwys:

  • Mae twristiaeth yn cael ei chydnabod fel sbardun economaidd allweddol i Abertawe ac mae’n rhaid i hyn barhau.
  • Mae’r gwaith a gyflawnwyd ynghylch hyrwyddo a chysylltu ‘cynnig’ Abertawe a ddaeth o gael tîm pêl-droed llwyddiannus, yn ardderchog… ond mae’n rhaid i ni beidio â gorffwys ar ein rhwyfau.
  • Bydd cael cynllunio rheoli cyrchfannau’n gywir yn hanfodol i wella’r hyn sydd eisoes gan Abertawe i’w gynnig i ymwelwyr. Mae’r ymgyrch i ddatblygu Cynllun Rheoli Cyrchfannau’n un gywir.
  • Gellir gwneud mwy i weithio gyda rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys masnachwyr a darparwyr lleol, wrth wella a datblygu twristiaeth yn lleol.
  • Mae creu amgylchedd pleserus, glân ac wedi’i gynnal yn dda yn hanfodol…mae creu Abertawe’n ‘gyrchfan wych i dwristiaid’ yn hanfodol.

Yn gyffredinol, roedd y panel yn teimlo bod y cyngor yn symud i’r cyfeiriad cywir ac roedd yn optimistaidd am ddyfodol y diwydiant twristiaeth yn Abertawe a’r gallu i wynebu heriau yn y dyfodol.  Cyfarfu’r panel yn ddiweddar i ystyried effaith yr adroddiad hwn a’i argymhellion, a’r gwahaniaeth a wnaed.

Yn dilyn y gwaith craffu hwn:

  • Mae’r Cynllun Rheoli Cyrchfannau bellach wedi’i gyflwyno. Roedd y panel wedi amlygu’r angen i’r cyngor achub y blaen ar y Cynllun Rheoli Cyrchfannau a’i ddefnyddio fel offeryn i sicrhau cydlynu a chydweithio gwell wrth symud ymlaen rhwng y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol i gyflawni’r amcan a rennir, sef gwella profiad ymwelwyr.
  • Mae gr?p llywio wedi’i sefydlu sy’n cynnwys Aelodau’r Cabinet, Cyfarwyddwr, Pennaeth/Penaethiaid Gwasanaeth a rhanddeiliaid y sectorau preifat a chyhoeddus, a fydd yn ychwanegu pwysau sylweddol i sicrhau bod y Cynllun Gweithredu’n cael ei roi ar waith mewn ffordd gydlynol a chyflawnadwy.
  • Mae twristiaeth yn cael ei chydnabod yn helaeth fel mater trawsbynciol yn y cyngor, yn croesawu’r economi ymwelwyr ehangach, nid yr Is-adran Twristiaeth yn y Gwasanaethau Diwylliannol yn unig. Bu nifer o enghreifftiau lle gellir dangos tystiolaeth o hyn, yn enwedig mewn perthynas â’r Gwasanaethau Glanhau a Phriffyrdd.
  • Mae’r Is-adran Twristiaeth a gwasanaethau eraill y cyngor sy’n chwarae rôl bwysig wrth gyfrannu i foddhad cwsmeriaid gwell yn gallu gweld sut maen nhw’n cyfrannu i’r dangosyddion perfformiad allweddol ar gyfer twristiaeth.

Mae craffu cyffredinol wedi darparu momentwm i symud ymlaen, wrth i’r holl randdeiliaid geisio gwella’r profiad ymwelwyr yn y cyrchfan, ac mae wedi gwneud cyfraniad defnyddiol i drafodaeth bwysig am dwristiaeth yn Abertawe.

2. Darparu mwy o gartrefi fforddiadwy (Arweinydd: Y Cynghorydd Terry Hennegan)

Cwblhawyd ymchwiliad yn ystod 2013 a oedd yn gofyn ‘Sut gall y cyngor a’i bartneriaid gynyddu’r cyflenwad cyffredinol o dai fforddiadwy yn Abertawe?’ Roedd adroddiad y Panel Ymchwilio Craffu Tai Fforddiadwy, o’r enw ‘Adeiladu’r Sylfeini Cywir’, yn gwneud nifer o argymhellion i’r Cabinet ac ymatebwyd i’r rhain yn ffurfiol ym mis Rhagfyr 2013.

Roedd rhai negeseuon allweddol a oedd yn deillio o’r ymchwiliad yn cynnwys:

  •  Bod nifer y tai fforddiadwy newydd sy’n cael eu cyflenwi yn Abertawe’n llai na nifer y tai fforddiadwy newydd sydd eu hangen.
  • Mae her tai fforddiadwy yn broblem system na fydd yn cael ei datrys gan un cynllun yn unig.
  • Er bod y cyngor yn gwneud defnydd da o’r arian grant y mae’n ei dderbyn i adeiladu tai fforddiadwy, newydd bydd angen iddo ddatblygu rôl fwy strategol yn y dyfodol.

Ailgyfarfu’r panel yn ddiweddar i wirio cynnydd wrth roi argymhelliad cytunedig ar waith ac effaith ei waith, gydag adroddiad gan Aelod y Cabinet.

Mae’r ymchwiliad craffu wedi dylanwadu ar nifer o faterion:

  •  codi proffil tai fforddiadwy trwy gyflwyno’r achos i Fwrdd Gwasanaethau Lleol Abertawe ar gyfer cynnwys tai fforddiadwy fel her yng Nghynllun Un Abertawe.
  • cyhoeddi ymrwymiad clir i dai fforddiadwy yn y Strategaeth Tai Lleol.
  • sicrhau bod tai fforddiadwy, newydd yn parhau i fod ar gael fel tai fforddiadwy yn y tymor hir.
  • gweithio gyda phartneriaid gan agor y drafodaeth ar drefnu bod mwy o dir perchnogaeth gyhoeddus ar gael i adeiladu tai arno i gynyddu cyflenwad tai fforddiadwy.
  • dod â chartrefi gwag y sector rhentu preifat yn ôl i ddefnydd trwy roi Strategaeth Cartrefi Gwag y cyngor ar waith.
  • chwilio am ddatrysiadau y tu allan i ddulliau traddodiadol o gyflenwi tai fforddiadwy, er enghraifft gweithio mewn partneriaeth â datblygwyr sy’n arbenigo mewn modelau ariannol eraill i ddarparu cartrefi wedi’u gosod ar renti canolradd yn seiliedig ar lwfans tai lleol.
  • adolygu’r gwasanaeth cefnogi y mae’r cyngor yn ei ddarparu mewn perthynas â datblygiadau newydd.
  • dod â’r holl elfennau tai dan un portffolio cabinet.

Clywodd y panel fod ei adroddiad wedi gwneud cyfraniad defnyddiol i drafodaeth bwysig am dai fforddiadwy yn Abertawe ac roedd wedi cael help i godi ei broffil, a dylai gael effaith gadarnhaol ar nifer yr unedau tai fforddiadwy a gyflwynir yn y ddinas a’r sir.

3. Helpu i wella’r Strydlun (Arweinydd: y Cynghorydd John Bayliss)

Mae argymhellion gan y Panel Ymchwiliad Craffu Strydlun wrthi’n cael eu hystyried gan y Cabinet. Roedd yr adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn edrych ar gynnal a chadw a glendid ffyrdd, troedffyrdd ac ymylon ffyrdd yn Abertawe, a pha welliannau y gellid eu gwneud.

Mae’n pwysleisio’r canlynol:

  •  Mae gwasanaethau Strydlun yn wasanaethau hanfodol i bobl Abertawe. Dyma’r un peth gan y cyngor y mae pob dinesydd yn ei ddefnyddio ac yn rhyngweithio ag ef bob dydd.  Mae preswylwyr eisiau strydoedd glân wedi’u dylunio’n dda.
  • Mae’r cyngor yn wynebu cyfyngiadau ariannol difrifol iawn a fydd yn effeithio ar gyflwyno gwasanaethau.
  • Dylai casgliadau sbwriel, er enghraifft, fod yn siop dan yr unto ar gyfer glanhau strydoedd – byddai cydlyniad gwell rhwng gweithredoedd casglu sbwriel a glanhau strydoedd yn wasanaeth mwy effeithlon a chost-effeithiol.

Disgwylir ymateb gan y Cabinet ym mis Ebrill.

4. Canmoliaeth gan arolygwyr AGGCC (Arweinwyr: Y Cynghorydd Paxton Hood-Williams/Y Cynghorydd Bob Clay)

Mae ffocws ar Wasanaethau Cymdeithasol yn parhau i fod yn nodwedd sylweddol o’r Rhaglen Waith Craffu. Mae’r staff craffu’n monitro ac yn herio Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn rheolaidd trwy Banel Perfformiad pwrpasol (dan arweiniad y Cynghorydd Paxton Hood-Williams) ac, yn dilyn cyfnod o fonitro perfformiad mewn Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion, mae gr?p o gynghorwyr yn cymryd golwg agosach ar raglen gyffredinol Trawsnewid Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion (dan arweiniad y Cynghorydd Bob Clay).

Mae ymdrechion y staff craffu wedi’u cydnabod a’u canmol gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) yn dilyn ei hadolygiad perfformiad blynyddol o’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn Abertawe, a gyflwynwyd i’r cyngor ym mis Rhagfyr 2014. Roedd yr adroddiad yn eithriadol o gadarnhaol wrth gydnabod y perfformiad da ym meysydd gwasanaeth oedolion a phlant, ond hefyd wrth gefnogi strategaeth y cyngor ar gyfer gwella gwasanaethau.

Canmolodd yr adroddiad y ffocws mae craffu wedi’i roi i faterion gwasanaethau cymdeithasol, datblygiadau a gwybodaeth perfformiad. Hefyd, cydnabu’r ymroddiad cadarnhaol gan aelodau sy’n cwrdd yn rheolaidd er mwyn rhoi digon o amser i graffu busnes yn llawn ac yn fanwl.

Dyfyniadau o Adroddiad Gwerthuso Perfformiad AGGCC 2013-14:

“Mae’r cyngor yn gwneud cynnydd sylweddol gyda’i gynlluniau ar gyfer newid trawsnewidiol mewn gwasanaethau i oedolion a phlant ac mae wedi ennill cefnogaeth wleidyddol a chorfforaethol gref ar gyfer yr heriau yr ymgymerir â hwy. Mae hyn yn amlwg o’r trefniadau craffu effeithiol sydd ar waith ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol i oedolion a phlant.” (t.1)

“Mae trefniadau craffu cadarn a gefnogir gan wybodaeth perfformiad a adroddir gan y penaethiaid gwasanaeth yn unol â fframwaith adrodd sicrhau ansawdd y cyngor.” (t. 14)

Mae AGGCC yn bwriadu dilyn trefniadau craffu, ymysg meysydd eraill, yn y flwyddyn nesaf.

 

Llun: http://flic.kr/p/e4Bdjc

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.