Rhannwch eich adborth â ni

Rydym wedi cyrraedd yr adeg honno o’r flwyddyn eto pan fyddwn yn cynnal ein harolwg blynyddol er mwyn cael adborth ar graffu. Rydym wedi bod yn cynnal yr arolwg hwn ar gyfer cynghorwyr, staff a sefydliadau partner ers sawl blwyddyn bellach ac rydym wedi cael llawer o syniadau da sy’n llywio’r hyn rydym yn ei wneud.

Mae’r arolwg hwn yn bwysig iawn i ni. Caiff y canlyniadau eu hadrodd yn ôl i gynghorwyr er mwyn iddynt allu helpu i wella gwaith craffu a nodi pynciau newydd. Caiff canlyniadau’r arolwg eu cyhoeddi yn ein hadroddiad blynyddol hefyd: www.swansea.gov.uk/article/13449/Scrutiny-Annual-Report-201314-August-2014

Rydym eisoes wedi derbyn nifer o ymatebion defnyddiol iawn ond hoffem glywed mwy o’ch awgrymiadau. Gellir cyflwyno’ch adborth yn gyflym ac yn rhwydd, felly os oes gennych funud rhydd byddem yn ddiolchgar iawn petaech yn gallu cwblhau’r arolwg. Bydd yr arolwg ar agor nes 15 Mai.

Ar gyfer cynghorwyr:

www2.swansea.gov.uk/_snapforms/osr/sass0215/satisfaction_survey_15cllrs.htm

Ar gyfer staff Dinas a Sir Abertawe, sefydliadau partner ac aelodau’r cyhoedd:

www2.swansea.gov.uk/_snapforms/osr/sass0315/eng/satisfaction_survey_15staff.htm

 

Mae croeso i chi rannu’r wybodaeth hon ag eraill.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.