Ar beth y dylai craffu fod yn edrych?

Yn fuan bydd cynghorwyr craffu’n cynnal eu cynhadledd craffu flynyddol lle byddant yn blaenoriaethu eu gwaith ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

Mae’n bwysig bod craffu’n canolbwyntio ar y materion sydd bwysicaf i’r cyhoedd, felly hoffai’r cynghorwyr craffu glywed eich syniadau. Hoffent wybod a oes unrhyw wasanaethau’r cyngor neu unrhyw rai cyhoeddus eraill y mae angen iddynt edrych arnynt yn eich tyb chi.

Os hoffech adael awgrym, dilynwch y ddolen isod:

http://www2.swansea.gov.uk/_snapforms/osr/sys0515/cym/topicsforreviewwelsh2.htm

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae llawer o’r pynciau a awgrymwyd gan y cyhoedd wedi’u defnyddio fel ymchwiliadau craffu megis cynllunio, parcio ceir a chynnal a chadw ffyrdd a llwybrau troed a glendid.
Bydd adborth o’r gynhadledd cynllunio gwaith blynyddol ar gael yma’n fuan.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.