Craffu ar ERW: Ein consortiwm addysg rhanbarthol

 

image001 (1)

 

 

 

 

 

 

Mae’n bleser gan Dîm Craffu Abertawe weithio gyda chynghorwyr a swyddogion craffu ar draws de-orllewin Cymru i graffu ar waith ERW: partneriaeth addysg y rhanbarth.

Consortiwm o chwe chyngor sy’n cefnogi gwelliant addysgol yw ERW (neu Ein Rhanbarth ar Waith).

Mae pob un o’r chwe chyngor yn cyfrannu drwy gynnig gwasanaethau ac ati i ERW. Ein cyfraniad yw cefnogi’r gwaith o graffu ar y trefniant rhanbarthol hwn.

Mae ERW yn awyddus i sicrhau llywodraethu da ac yn ystyried bod trefniant craffu effeithiol yn rhan bwysig o hyn. Mae craffu’n helpu i sicrhau y caiff y ‘diffyg democrataidd’ ei leihau. Mae Estyn hefyd yn disgwyl y bydd gan gonsortia addysg rhanbarthol bwyllgor craffu ar y cyd neu ryw fath o ddull cydlynu. Fodd bynnag, mae’n deg dweud bod craffu ar y trefniadau rhanbarthol hyn yn her ac yn aml yn wynebu anawsterau.

Mae cynghorwyr craffu ar draws y rhanbarthau wedi ystyried yn ofalus sut y dylai craffu weithio, gan gytuno ar eu hymagwedd mewn cyfarfod diweddar a gynhaliwyd gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot.

Enw’r model sydd wedi’i fabwysiadu yw Gr?p Cynghorwyr Craffu ERW. Mae hwn yn drefniant cydlynu a fydd yn helpu i sicrhau’r deilliannau addysgol gorau i blant yn rhanbarth ERW drwy gefnogi craffu effeithiol. Mae’n ceisio:
• Cefnogi craffu cyson ar draws y chwe chyngor
• Rhannu arfer craffu da
• Annog rhannu ymagweddau craffu ac osgoi dyblygu gwaith craffu
• Cynnig her feirniadol a gwrthrychol i ERW ar bynciau o ddiddordeb yn ôl y galw
• Cyfrannu at lywodraethu da ac effeithiol ERW

Yn sylfaen i’r gr?p yw nifer o ragdybiaethau:
• Cynhelir craffu ar ERW drwy drefniadau craffu cynghorau unigol
• Ym mhob cyngor, bydd aelod (neu aelodau) y cabinet sy’n gyfrifol am ERW yn atebol i gynghorwyr craffu
• Mae’r gr?p yn ddull cydlynu anffurfiol yn hytrach na phwyllgor ffurfiol
• Bydd y gr?p yn rhannu ei waith ac yn cyhoeddi dogfennau allweddol
• Bydd y gr?p yn parhau i ddatblygu a mireinio ei rôl a’i waith

Mae ERW wedi gweithio gyda swyddogion craffu o’r blaen ac wedi meithrin cysylltiadau cadarn â swyddogaethau craffu ym mhob un o’r chwe chyngor. Bydd y gr?p newydd hwn yn mynd â’r gwaith hwnnw i’r lefel nesaf drwy sicrhau yr arweinir y strwythur craffu gan gynghorwyr.
Bydd y gr?p yn cynnwys dau aelod craffu o bob cyngor ac yn cwrdd ddwywaith y flwyddyn. Cynhelir y cyfarfod cyntaf yn Abertawe ym mis Mawrth.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.