Gwella’n Proses Ymchwiliad Craffu

2015-09-08 15.34.18Rydym wedi newid ein proses ymchwiliad craffu rhywfaint dros y misoedd diweddar, ac, am fod y newidiadau hyn wedi cael eu derbyn yn gadarnhaol gan gynghorwyr craffu, meddyliais y byddwn yn rhannu hyn. Mae’n debyg y bydd yn rhaid i chi fod rhywfaint o gîc craffu, ond os ydych, rwy’n gobeithio y bydd hyn yn ddefnyddiol.

Mae llawer o’r pethau rydym wedi’u newid yn deillio o’r hyn a ddysgom gan y cynulliad pan fuom yn ymweld â hwy ym mis Gorffennaf.

Cynllunio

Rydym wedi disodli’n proses gwmpasu gyda cham cynllunio symlach. Mae hyn yn dilyn y cyngor a gawsom gan dîm y Cynulliad sef y dylai’r ffocws fod ar bwy ac nid beth.

Mae cynllunio’n ymwneud â thri chwestiwn (eto, gan dîm y Cynulliad):

  • Gan bwy rydych chi am gael tystiolaeth ysgrifenedig?
  • Â phwy rydych am siarad yn bersonol?
  • Pwy y mae angen i chi eu cyrraedd?

Safbwyntiau

Lle’r oeddem o’r blaen yn defnyddio ymagwedd ymchwil fwy ffurfiol, gan geisio ‘triongli’ rhwng dau neu fwy o weithgareddau ymchwil (ymchwil, arolygon a grwpiau ffocws yn nodweddiadol), rydym bellach yn meddwl am safbwyntiau ac yn adlewyrchu hyn wrth i ni gasglu tystiolaeth.

Datblygir llinellau ymholi sy’n cynnwys tybiaethau a chwestiynau cychwynnol, ac mae’r broses wedyn yn ymwneud â chael safbwyntiau gwahanol ar y llinellau ymholi hynny. Mae hyn yn caniatáu i’r cynghorwyr craffu weld ble mae pobl yn cytuno â’u tybiaethau cychwynnol ac unrhyw heriau i’r ‘safbwynt swyddogol’.

Roedd ein hymchwiliad diweddar i lywodraethu ysgolion, er enghraifft, wedi chwilio am safbwyntiau swyddogion y cyngor, ysgolion, arolygwyr ysgolion, clercod i lywodraethwyr a’r llywodraethwyr.

Weithiau mae deall safbwynt yn golygu cynnal sesiwn dystiolaeth gyhoeddus. Ar adegau eraill, yr hyn y mae ei angen yw cyfarfod anffurfiol neu fynd i gyfarfod rhywun arall.

Tameidiau Tystiolaeth

Yn lle cynhyrchu cofnodion neu stori ddisgrifiadol o’r dystiolaeth a gasglwyd ar gyfer yr ymchwiliad, rydym yn cadw tystiolaeth fel ‘tameidiau’ ar wahân. Mae pob tamaid yn bwynt bwled annibynnol y gellir ei symud o gwmpas yn hawdd pan fyddwn yn trefnu’r dystiolaeth ar ddiwedd yr ymchwiliad. Priodolir pob un i berson sy’n rhoi tystiolaeth neu gynghorydd a chysylltir pob un â sesiwn benodol.

Crynodebau Tystiolaeth

Ar ddiwedd pob sesiwn dystiolaeth, cynhyrchir crynodeb o’r tameidiau tystiolaeth a’u cylchredeg i’r sawl sy’n rhoi tystiolaeth. Gan mai’r diben yw cipio safbwynt penodol yn hytrach na llunio cofnod gair am air, mae’n iawn i bobl ychwanegu at y crynodeb neu’i newid – eu barn hwy sy’n bwysig a’u cadarnhad mai dyna yw eu barn hwy.

Pecyn Tystiolaeth

Ar ddiwedd yr ymchwiliad, caiff yr holl grynodebau o dystiolaeth eu coladu’n hawdd i becyn tystiolaeth.

Gallwch weld y pecyn tystiolaeth ar gyfer yr ymchwiliad llywodraethu ysgolion yma.

Codio a Dadansoddi

Er mwyn helpu i drefnu’r dystiolaeth ar gyfer yr ymchwiliad, rydym wedi defnyddio QDA Miner Lite i godio pob un o’r tameidiau o dystiolaeth yn ôl y sesiwn, y person sy’n rhoi tystiolaeth a’r llinellau ymholiad. Gallwch weld y codio yn y daenlen Excel rydym wedi’i chyhoeddi ynghyd â’r pecyn tystiolaeth ar gyfer yr ymchwiliad llywodraethu ysgolion.

Mae’r feddalwedd yn caniatáu i ni allbynnu’r tameidiau tystiolaeth fesul llinell ymholiad yn nhrefn y sesiynau. Mae hyn yn ei gwneud hi’n hawdd gweld stori pob llinyn ymholiad, lle mae pobl wedi cytuno ac anghytuno.

Wrth gwrs, yr unig beth y gall y feddalwedd ei wneud yw trefnu’r deunydd. Mae dadansoddi, yn ei hanfod, yn dal i fod yn fater o ddehongli a dadlau.

Barn cynghorwyr craffu sy’n cyfeirio casgliadau ac argymhellion yn y pen draw – gobeithiwn fydd y gwelliannau hyn i’n proses ymchwilio yn helpu i gryfhau’r farn hon.

 

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.