Dewis ein Blaenoriaethau ar gyfer 2016/17

work plan conf fiona gordon pic.jpg

Llun trwy garedigrwydd: Y Cynghorydd Fiona Gordon

Yr wythnos ddiwethaf, cynhaliwyd 5ed Cynhadledd flynyddol Cynllunio Gwaith cynghorwyr. Mae’r digwyddiad hwn ar agor i’r holl gynghorwyr craffu, aelodau a gyfetholwyd ac aelodau lleyg o’r Pwyllgorau Archwilio a Safonau. Y diben oedd meddwl am ba bynciau craffu y dylid canolbwyntio arnynt y flwyddyn nesaf.

Ystyriodd y cynghorwyr amrywiaeth o awgrymiadau gan gynnwys:

  • Adolygu cynllun gwaith y llynedd
  • Blaenoriaethau corfforaethol y cyngor (gan Mike Hawes, Cyfarwyddwr Corfforaethol Adnoddau)
  • Awgrymiadau a syniadau gan y Cabinet, y cyhoedd, y staff, y partneriaid a’r cynghorwyr (drwy arolwg)

Y prif bynciau a gafwyd o’r trafodaethau oedd:

  • Cydweithio – pa mor effeithiol ydyw? Sut gallai cydweithio rhwng y cyngor รข’i bartneriaid gael ei wella?
  • Parodrwydd ar gyfer yr ysgol – Dyma un o’r heriau allweddol ar gyfer Abertawe fel Dinas Iach ond a yw’r cyngor yn cael hyn yn iawn? Sut gellir gwella’r gefnogaeth ar gyfer plant 0-3 oed fel y gallant gyrraedd yr ysgol yn barod i ddysgu?
  • Gwasanaethau Adeiladau Corfforaethol – a yw’n cynnig gwerth am arian?
  • Cynhwysiad Digidol – Bydd llawer o wasanaethau’r cyngor yn ddigidol yn y dyfodol ond a yw safon y gwasanaethau’n cael ei chynnal? Sut gallwn sicrhau nad yw pobl yn cael eu heithrio o wasanaethau unwaith y byddant yn ddigidol?
  • Strategaeth Tai – Mae gan y cyngor gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer bodloni angen tai drwy adeiladu cartrefi newydd ond pa mor realistig yw’r cynlluniau hyn? Sut gellir diwallu anghenion tai orau?

Roedd syniadau am bynciau eraill yn cynnwys:

  • Diogelu rhag colli rhyddid
  • Canol dinas llewyrchus a llawn addewid
  • Creu swyddi
  • Cydlyniant cymunedol
  • Diogelu
  • Ystadau/rheoli asedau
  • Cludiant ysgol
  • Parcio i breswylwyr
  • Cynllunio/arian adran 106
  • Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Bydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu’n defnyddio’r cynigion hyn wrth ystyried ei gynllun gwaith newydd pan fydd yn cwrdd eto ym mis Mehefin. Efallai bydd rhai pynciau’n cael eu trafod gan baneli perfformiad presennol, rhai gan weithgorau ac eraill drwy ymchwiliadau manwl.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.