Saith rheswm dros garu’ch adroddiad craffu blynyddol

Yr wythnos ddiwethaf adroddwyd am yr Adroddiad Craffu Blynyddol yng nghyfarfod Cyngor Abertawe. Gallwch ei lawrlwytho yma.

Iawn, efallai nad hon yw’r ddogfen fwyaf cyffrous erioed, ond i unrhyw un sy’n ymwneud â chraffu mae’n hollbwysig, a chan fod nifer o gynghorau’n cynhyrchu’r dogfennau hyn, man a man iddynt fod yn ymarfer gwerth chweil.

Felly rwyf wedi penderfynu tanlinellu’r pwynt hwn gan awgrymu saith rheswm i egluro pam y mae adroddiadau blynyddol craffu’n ddefnyddiol iawn, a byddaf yn amlygu’r pwyntiau gan ddefnyddio manylion o’n hadroddiad ni.

Gyda llaw, mae gennym system un pwyllgor – mwy am hyn yma.

Felly dyma’r saith rheswm dros gael adroddiad craffu blynyddol:

  1. I ddweud beth yw’r sefyllfa bresennol

Unwaith y flwyddyn mae craffu’n cael y cyfle i roi’r darlun mawr o’r sefyllfa bresennol. Oherwydd natur llywodraeth leol, mae pethau’n newid yn gyson ac mae’r adroddiad blynyddol yn gyfle gwych i fyfyrio ar y sefyllfa graffu.

Dyma beth ddywedodd y Cynghorydd Mary Jones am graffu yn Abertawe elen er enghraifft:

Dros y flwyddyn ddiwethaf mae craffu yn Abertawe wedi parhau i wella, ac mae wedi parhau i wneud gwahaniaeth. Cydnabuwyd ein hymagwedd hyblyg at graffu, sydd wedi denu diddordeb gan gynghorau eraill,  yn genedlaethol pan roddwyd Dinas a Sir Abertawe ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr MJ (a elwir hefyd yn Oscars llywodraeth leol!) yn y categori Rhagoriaeth mewn Llywodraethu a Chraffu. Yn anffodus nid oeddem wedi ennill y wobr bennaf ond roedd yn gyflawniad mawr i fod ar y rhestr fer ar gyfer y wobr hon, ac mae’n dangos y cynnydd rydym wedi ei wneud.

  1. I amlygu’r hyn sy’n bwysig

Gall craffu fod yn fater cymhleth ac mae’r adroddiad blynyddol yn gyfle i nodi’r hyn sydd bwysicaf i gynghorwyr craffu’n lleol.

Yn Abertawe, er enghraifft, mae cynnal sesiwn holi ac ateb ffurfiol gyda holl Aelodau’r Cabinet a’r Pwyllgor yn cyrraedd y brig.

  1. I olrhain perfformiad

Yn Abertawe rydym wedi bod yn defnyddio ymagwedd cerdyn cadw sgôr canlyniadau er mwyn olrhain perfformiad ers 2011. Bellach mae gennym 23 o ddangosyddion y gellir olrhain nifer ohonynt dros bum mlynedd.

Mae’r dangosydd hwn, er enghraifft, yn amlygu’r holl waith a wneir:

working groups graph

Ac mae hwn yn dangos canfyddiadau cynghorwyr am y gwahaniaeth sy’n cael ei wneud gan waith craffu:

impact graph

  1. I ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu

Ni fyddai craffu’n gallu llwyddo heb fewnbwn gan ystod eang o bobl, felly mae’r adroddiad blynyddol yn gyfle i roi’r diolch maent yn ei haeddu iddynt.

Wrth gwrs, mae cynghorwyr craffu’n hollbwysig, ond mae aelodau’r cabinet hefyd yn chwarae rôl bwysig, yn ogystal â staff cefnogi ar draws y cyngor a’r rheiny o du allan i’r cyngor sy’n barod i roi tystiolaeth.

  1. I amlygu’r hyn y mae craffu wedi bod yn gweithio arno

Nid yw’n gwneud unrhyw niwed i atgoffa pobl am yr hyn y mae craffu wedi bod yn gweithio arno, ac mai dyma’r materion sy’n bwysig i’r cyngor ac i’r cyhoedd.

Mae craffu yn Abertawe, er enghraifft, wedi bod yn edrych ar lywodraethu, adeiladu cymunedau cynaliadwy a’r gwasanaethau iechyd meddwl i blant a phobl ifanc fel pynciau llosg.

  1. I ddangos yr hyn a ddysgwyd

Fel y crybwyllwyd, mae craffu’n fater cymhleth ac mae angen i gynghorwyr barhau i ddatblygu os ydynt i fod yn grafwyr effeithiol. Yn Abertawe, er enghraifft, cynhaliwyd sesiynau’r llynedd am hawliau plant, ac un sesiwn am wasanaethau cymunedol.

Ar yr un pryd mae’r adroddiad blynyddol yn darparu cyfle i gynnig adborth gan arolygwyr ac eraill. Mae hyn nid yn unig yn rhan bwysig o’r ‘sgwrs gwella’, ond mae’n rhoi sicrwydd i’r arolygwyr hynny bod eu sylwadau am graffu’n cael eu derbyn.

Wrth gwrs, gallwn grybwyll y ffaith fod Abertawe wedi ei chynnwys ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr MJ, a’r pethau cadarnhaol iawn a ddywedwyd gan y dyfarnwyr am ein hymagwedd hyblyg at graffu – ond nid ydym am fwydro am hyn wrth gwrs.

  1. I nodi ein cynlluniau ar gyfer gwella a datblygu

Yn olaf, mae’r adroddiad blynyddol yn darparu cyfle i edrych i’r dyfodol a nodi’r newidiadau sydd angen eu gwneud ym maes craffu.

I Abertawe mae hyn yn golygu gwell defnydd o graffu cyn penderfynu, a pharhau i weithio ar y chwe chanlyniad gwella y cytunwyd arnynt y llynedd. Ymysg y rhain mae cynnwys y cyhoedd, mwy o sylw gan y cyfryngau a chysylltiadau agosach â rheoleiddwyr ac arolygwyr.

 

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.