Sut rydym yn defnyddio tystiolaeth ar gyfer ymchwiliadau craffu

 

Mae casglu tystiolaeth ar gyfer gwaith manwl yn agwedd sylfaenol ar arfer craffu. Fel arfer, bydd ymchwiliadau’n ceisio cynnig datrysiadau credadwy i faterion cymhleth y gellid eu mabwysiadu’n hyderus. Felly, mae angen i’r gwaith fod yn seiliedig ar broses gadarn o gasglu a defnyddio tystiolaeth.

Fel unrhyw broses ymchwil, mae’n bwysig nodi’r egwyddorion sylfaenol.

Felly, dyma ein hymagwedd ni.

Mae’n bwysig datgan ar y dechrau ein bod wedi dysgu cryn dipyn o’r hyn rydym yn ei wneud gan y Tîm Allgymorth yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ar ôl i ni dreulio diwrnod dysgu gyda hwy. Rwyf wedi ysgrifennu amdano yma.

Nod

Yn gyffredinol, ein nod yw sicrhau bod gan gynghorwyr craffu’r dystiolaeth y mae ei hangen arnynt i gyrraedd barn gytbwys.

Cefnogir y nod hwn gan bum egwyddor a nodir isod.

 

  1. Nodi’r rhagdybiaethau gwaith

Mae pob ymchwiliad manwl yn dechrau gyda’r cwestiwn ‘sut’ ac mae’r cynghorwyr yn cytuno ar eu trywyddau ymchwilio ar ddechrau’r broses.

Bydd gan gynghorwyr rai syniadau am y materion a gellir nodi’r rhain fel rhan o’r trywyddau ymchwilio – yna gellir profi’r rhagdybiaethau wrth i’r dystiolaeth gael ei chasglu.

  1. Casglu amrywiaeth o safbwyntiau

Mae natur y materion yr ymdrinnir â hwy’n gymhleth ac yn ddadleuol (ni fyddai pwrpas cynnal ymchwiliad fel arall). Mae’n annhebygol y ceir ateb ‘diamheuol’ gywir. Yn lle hynny, bydd angen i gynghorwyr ddod i farn ystyriol ar ôl gwrando ar safbwyntiau gwahanol. Felly, mae proses dda’n un sy’n caniatáu i gynghorwyr glywed barn rhanddeiliaid allweddol (yn absenoldeb gair gwell).

Mae’n bwysig clywed gan swyddogion y cyngor ac arbenigwyr allanol ond mae hefyd yn bwysig clywed gan y rhai sy’n cael profiad uniongyrchol o faterion, neu gan eu cynrychiolwyr.

Felly, cwestiwn allweddol ar ddechrau’r broses yw ‘pwy fydd angen i ni glywed ganddynt?’

Un arall yw ‘pwy fydd angen i ni glywed ganddynt nad ydym fel arfer yn clywed ganddynt?’

  1. Dylai cynghorwyr fod yn yr ystafell bob amser

Rydym yn ceisio sicrhau bod cynghorwyr yn cyfrannu’n uniongyrchol at unrhyw broses o gasglu tystiolaeth wyneb yn wyneb, hyd yn oes os bydd hyn yn arwain at ddefnyddio pethau fel grwpiau ffocws yn hytrach nag ymagweddau mwy ‘gwyddonol’.

Rydym yn meddwl y gall cynghorwyr gyrraedd barn yn well os gallant weld y bobl sy’n cyflwyno’r dadleuon – mae’n hollol ddilys ‘teimlo’ tystiolaeth yn ogystal â’i hasesu’n rhesymegol. O fewn proses wleidyddol, defnyddir y galon yn ogystal â’r pen i wneud penderfyniadau.

Mae cynghorwyr hefyd yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys yn y gwaith yn fwy pan gaiff ei wneud fel hyn (yn hytrach nag ymateb i adroddiadau ysgrifenedig gan swyddogion yn unig).

Rydym hefyd yn defnyddio cyfarfodydd ‘y tu ôl i’r llenni’ lle gall cynghorwyr gwrdd â phobl sydd am siarad yn blaen heb i’w sylwadau gael eu cyhoeddi neu eu priodoli’n unigol.

  1. Creu data dirnadwy

Ar ddiwedd ymchwiliad manwl, bydd gan gynghorwyr ddigonedd o dystiolaeth i ymdrin â hi. Fel swyddogion, ein gwaith yw cefnogi’r broses o drefnu a dehongli ystyr y dystiolaeth hon.

Ar gyfer ein hymchwiliadau, rydym yn dadansoddi’r dystiolaeth fel datganiadau unigol wrth i ni fynd ac yna’n codio (gan ddefnyddio meddalwedd QDA Miner) pob datganiad yn ôl pwy a’i dywedodd, o ba sesiwn y daeth, a’r trywyddau ymchwilio perthnasol.

Mae hyn yn ein caniatáu i gyflwyno’r dystiolaeth yn hawdd yn erbyn pob trywydd ymchwilio i weld ‘stori’ pob un ohonynt – yn enwedig y meysydd lle ceir gwahaniaeth a chytundeb rhwng y rhai sy’n cyflwyno tystiolaeth.

Mae cyflwyno tystiolaeth fel datganiadau yn broses sy’n gofyn am sgiliau ac yn destun dehongliad y swyddog craffu. Fel gwiriad, rydym yn holi’r bobl sydd wedi cyflwyno tystiolaeth er mwyn sicrhau eu bod yn fodlon ar yr hyn rydym wedi’i llunio. Gellir gwneud newidiadau’n hawdd gan mai’r bwriad yw cyflwyno barn y bobl sy’n cyflwyno tystiolaeth yn gywir yn hytrach na chofnodi cyfarfod air am air.

  1. Rhannu’n hawdd

Gan ein bod yn credu yn egwyddor data agored, oherwydd bod craffu’n swyddogaeth ddemocrataidd a chan fod ymchwiliadau craffu mewn cynghorau gwahanol yn aml yn ymdrin â’r un pethau, rydym yn credu ei fod yn bwysig rhannu.

Rydym yn llunio ac yn cyhoeddi ‘crynodeb tystiolaeth’ o bob sesiwn ac, ar ddiwedd yr ymchwiliad, rydym yn cyhoeddi ‘pecyn tystiolaeth’ sy’n cynnwys yr holl grynodebau hyn ac unrhyw ddeunydd perthnasol arall. Yn bennaf, mae hon yn ddogfen i gynghorwyr gyfeirio ati wrth ddatblygu eu hadroddiad terfynol, ond rydym hefyd yn gobeithio y bydd o ddefnydd ehangach.

Rydym hefyd yn arbrofi â chyhoeddi’r pecyn tystiolaeth fel taenlen – ffurf fwy hwylus ar ddata agored.

Gallwch gael enghraifft o becyn tystiolaeth a thaenlen ddata o ymchwiliad i lywodraethu ysgolion yma. (Mae’r adroddiad terfynol o’r gwaith hwnnw yma)

 

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.