Felly, beth sy’n digwydd yn yr Ymchwiliad Craffu Cydraddoldebau?

Mae’r Ymchwiliad Craffu Cydraddoldebau yn Abertawe yn parhau ar gyflymder, gyda Chynghorwyr yn siarad â phobl o grwpiau a sefydliadau gwahanol ar draws Abertawe. Maent wedi siarad â phobl ifanc trwy’r Sgwrs Fawr, pobl h?n yn y Rhwydwaith 50+, a’r gymuned LGBT yn y Fforwm LGBT. Mae’r panel hefyd yn bwriadu siarad â gofalwyr, y Fforwm Cyswllt Anableddau, y Fforwm Lleiafrifoedd Ethnig a Du, Tîm Joining the Dots a hen filwyr.

Ym mis Hydref, cytunodd y Panel Craffu Cydraddoldebau ar ei raglen waith ar gyfer yr ymchwiliad i gydraddoldebau. Fel rhan o’r darn hwn o waith, mae cynghorwyr hefyd wedi siarad â chyfarwyddwyr y cyngor er mwyn iddynt ddeall yr agweddau cydraddoldeb yn eu cylch gwaith, gan gynnwys sut maent yn datblygu eu hamcanion cydraddoldeb, ymgorffori dyletswyddau cydraddoldebau’r cyngor a hyfforddiant/gwybodaeth staff.

Y cyfarfodydd sydd gan y panel ar y gweill yw:

31 Ionawr 2019 (am 10.30am yn Ystafell Bwyllgor 3a yn Neuadd y Ddinas) – Cyfarfod â’r Cyfarwyddwr Addysg a sesiwn â chynrychiolwyr staff cydraddoldeb y cyngor

11 Mawrth 2019 (am 10.30am yn Ystafell Bwyllgor 5 yn Neuadd y Ddinas) – Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Disgwylir i’r ymchwiliad cael ei gwblhau ym mis Ebrill lle bydd Cynghorwyr yn dechrau penderfynu ar eu casgliad a’u hawgrymiadau. Cadwch lygad ar ein blog am y diweddaraf.

Mae’r cyfarfodydd hyn oll ar agor i’r cyhoedd a byddai’r panel yn croesawu eich barn yn y cyfarfodydd a/neu drwy ysgrifennu e-bost neu lythyr. Gallwch anfon e-bost atom yn scrutiny@abertawe.gov.uk.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.