Cynghorwyr Craffu’n cwrdd ag aelodau o Glwb Cyn-filwyr Lluoedd Arfog Ei Mawrhydi

Mae Cynghorwyr Craffu yn Abertawe’n ymchwilio i gydraddoldeb ac, fel rhan o hyn, maent yn cwrdd â detholiad eang o bobl er mwyn iddynt ddeall y materion allweddol sy’n effeithio ar fywydau pobl. Byddant yn defnyddio’r wybodaeth a gesglir i’w helpu i lunio cyfres o argymhellion i wella gwasanaethau’r cyngor.

Yr wythnos hon, gwnaethant gwrdd ag aelodau o Glwb y Cyn-filwyr ac roedd y materion y buont yn eu trafod yn cynnwys y canlynol:

  • Hygyrchedd gwasanaethau’r cyngor
  • Rhwystrau rhag cael mynediad at wasanaethau
  • Ymroddiad y cyngor i gydraddoldeb ac amrywiaeth
  • Yr hyn y gall y cyngor ei wneud i’w wneud yn sefydliad sy’n fwy cynhwysol

Lansiwyd Clwb y Cyn-filwyr ym mis Mawrth 2018 â’r nod o ddod â chyn-filwyr, aelodau sy’n gwasanaethu a’u teuluoedd ynghyd a’u cefnogi yn ystod adegau o galedi, unigrwydd ynghyd â thrafferthion corfforol a meddygol.

Mae Clwb y Cyn-filwyr yn darparu ffordd hygyrch o adeiladu cyfeillgarwch gyda dealltwriaeth glir o’r hyn maent yn ei wynebu pan fyddant wedi gadael y gwasanaethau, hyd yn oed os yw o bryd i’w gilydd yn unig.

Yr hyn sy’n bwysig yw darparu ‘lle iddynt fynd iddo’ a ‘pherson iddynt siarad ag ef’ yn ystod yr adegau anodd hynny. Dyma hefyd fan cychwyn wrth newid ‘ymateb’ dioddefwr PTSD.

Maent yn darparu sesiwn ‘galw heibio’ hygyrch a hamddenol ym mhob cymuned ar draws y DU.

Os hoffech gymryd rhan, cefnogi neu ymweld â Chlwb y Cyn-filwyr, gallwch gysylltu ag ef yn www.veterans-club.co.uk

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.