Oes gennych chi gwestiwn ar gyfer Aelodau’r Cabinet?

Mae Pwyllgor Rhaglen Graffu’r Cyngor yn sicrhau bod Cabinet y cyngor yn atebol a, thrwy gydol y flwyddyn, mae’n trefnu sesiynau holi ac ateb gyda phob Aelod y Cabinet.

Bydd pob sesiwn holi ac ateb yn archwilio’r gwaith y mae Aelodau’r Cabinet wedi’i wneud yn ei rôl, gan edrych ar flaenoriaethau, camau gweithredu, llwyddiannau ac effeithiau.

Oes rhywbeth rydych chi’n meddwl y dylai’r pwyllgor ei ofyn iddynt?

Anfonwch eich syniadau atom trwy wneud sylw ar y blog hwn, trwy e-bostio craffu@abertawe.gov.uk neu drydar @craffuabertawe.

Bydd y pwyllgor yn ystyried unrhyw awgrymiadau wrth lunio ei strategaeth holi, a bydd cwestiynau allweddol yn cael eu cyflwyno i Aelodau’r Cabinet perthnasol pan fyddant yn ymddangos gerbron y pwyllgor.

Mae’r Cabinet yn cynnwys yr Arweinydd, y Cynghorydd Rob Stewart, a chynghorwr a benodir gan yr arweinydd, y dyrennir cyfrifoldebau penodol iddynt.

Y Cynghorydd Clive Lloyd (Y Dirprwy Arweinydd), Aelod y Cabinet dros Trawsnewid Busnes a Pherfformiad, fydd yn cychwyn sesiynau eleni, gan ymddangos gerbron Pwyllgor y Rhaglen Graffu ar 12 Awst.

Bydd aelodau eraill y Cabinet yn ymddangos fel a ganlyn:

Pryd:                                Pwy:

9 Medi 2019:                     Y Cyng. Andrea Lewis – Gartrefi ac Ynni         

14 Hydref 2019:                Y Cyng. Jennifer Raynor – Gwella Addysg, Dysgu  a Sgiliau

11 Tachwedd 2019:           Y Cyng. Elliot King / Y Cyng. Sam Pritchard –  Gwasanaethau Plant

9 Rhagfyr 2019:                Y Cyng. Mark Child – Gofal, Iechyd a Heneiddio’n  Dda

13 Ionawr 2020:                Y Cyng. Rob Stewart (Yr Arweinydd) – Economi a  Strategaeth

10 Chwefror 2020:            Y Cyng. Mark Thomas – Yr Amgylchedd a Rheoli  Isadeiledd

9 Mawrth 2020:                Y Cyng. Robert Francis-Davies – Buddsoddi,  Adfywio a Thwristiaeth

20 Ebrill 2020:                   Y Cyng. Alyson Pugh / Y Cyng. Andrew Stevens –    Cymunedau Gwell

11 Mai 2020:                     Y Cyng. David Hopkins –Cyflwyno

Mae cyfarfodydd y pwyllgor yn agored i’r cyhoedd ac mae croeso i chi ddod. Fel arfer, cynhelir pob cyfarfod yn Siambr y Cyngor yn Neuadd y Ddinas, Abertawe, gan ddechrau am 4.30pm.

Caiff crynodeb o bob sesiwn, gan gynnwys cwestiynau a holir gan y cyhoedd, ymatebion, a barn y pwyllgor, eu cynnwys mewn llythyr at aelod perthnasol y Cabinet. Mae’r llythyron hyn a’r ymatebion iddynt gan Aelodau’r Cabinet yn cael eu cyhoeddi ar wefan y cyngor ac mewn agendâu Pwyllgor y Rhaglen Graffu y dyfodol.
         

Delwedd: https://flic.kr/p/2eVMS6

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.