‘Hawdd ei Ddarllen’ – Fformat hygyrch i oedolion ag anableddau dysgu

Mae’r Ymchwiliad Craffu Cydraddoldebau diweddar wedi amlygu’r angen am wybodaeth fwy hygyrch am wasanaethau’r cyngor. Ar gyfer yr adroddiad Ymchwiliad Craffu, roedd cynghorwyr am lunio trosolwg hawdd ei ddarllen o gasgliadau ac argymhellion yr ymchwiliad. Felly, rydym wedi llunio amlinelliad o’r ddogfen ac wedi gweithio gyda defnyddwyr gwasanaeth yng Nghanolfan Ddydd Fforest-fach i’w hadolygu a sicrhau ei bod yn hygyrch i oedolion ag anableddau dysgu.

Roedd Deborah Webb, Rheolwr Prosiectau’r Gwasanaeth, yn awyddus i helpu ac meddai ‘Mae hi mor bwysig i oedolion ag anabledd dysgu gael mynediad at wybodaeth hygyrch i’w galluogi i wneud dewisiadau gwybodus’.

Arweiniwyd y sesiwn gan y Cyng. Louise Gibbard ac mae hi wedi diolch i’r holl unigolion cymwynasgar a gymerodd ran yn y gwaith i adolygu’r ddogfen. Canmolodd yr holl staff hefyd am eu gwaith da yn y Ganolfan Ddydd am helpu oedolion ag anableddau dysgu i ddysgu am werth gwaith a’r sgiliau sy’n gysylltiedig ag ef.

Hoffem ganmol creadigrwydd y defnyddwyr gwasanaeth a gafodd ei arddangos mewn ffordd hyfryd drwy’r prosiect ailgylchu lle ailddefnyddiwyd pren. Daliwch ati â’r gwaith da!

Bydd y fersiwn Hawdd ei Darllen yn barod cyn bo hir, felly cadwch lygad ar y wefan a byddwn yn gosod dolen ar ein blog.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.