Cynghorwyr Craffu’n canolbwyntio ar Wasanaethau i Gymunedau Gwledig

Llun trwy garedigrwydd: Swyddfa Archwilio Cymru

Yn ystod y cyfarfod ar 17 Gorffennaf, edrychodd y Panel Perfformiad Datblygu ac Adfywio ar yr Ymateb a’r Cynllun Gweithredu ynghylch Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, ‘Gwasanaethau Llywodraeth Leol i Gymunedau Gwledig’.

Mae Abertawe’n awdurdod lled-wledig ac mae 60% o’r tir yn wledig. Fodd bynnag, gall y broses o ddosbarthu wardiau fel rhai gwledig neu drefol fod yn gymhleth ac yn ddadleuol.

Roedd y gwaith a wnaed gan y tîm yng nghymunedau gwledig Abertawe wedi creu argraff dda ar y Panel, ond cafwyd rhai heriau. Er bod peth cyllid gwledig ar gael ar gyfer cymunedau gwledig, gall dyrannu arian fod yn anodd oherwydd y swm bach o arian sydd ar gael a’r cyfyngiadau ar yr hyn y gellir defnyddio’r arian ar ei gyfer.

Y ddau brif broblem a oedd yn pryderu aelodau’r panel oedd y diffyg cynlluniau ar gyfer cymunedau gwledig ar ôl Brexit – a ystyrir unwaith eto gan y panel mewn cyfarfod yn y dyfodol – a diffyg band eang mewn cymunedau gwledig. Gan fod cynifer o gyfleoedd arbed arian a gwasanaethau ar-lein erbyn hyn, mae’r panel yn pryderu y bydd y rhai na allant ddefnyddio’r cyfleuster hwn fod dan anfantais neu, ar y gwaethaf, wedi’u hynysu. Nid yw hwn yn fater i’r cyngor yn unig ond mae’n fater cenedlaethol sy’n effeithio ar breswylwyr Abertawe.

Bydd y panel yn ysgrifennu i Lywodraeth Cymru i amlygu’r mater hwn ac annog mynediad addas at y rhyngrwyd wrth gynnal yr amgylchedd naturiol ar yr un pryd.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.