Trafodaethau Bord Gron gyda Gofalwyr

Mae cynullydd Panel Craffu Perfformiad y Gwasanaethau i Oedolion, y Cynghorydd Peter Black, wedi arwain dwy sesiwn yr wythnos hon a’r wythnos diwethaf gyda gofalwyr oedolion ag anawsterau dysgu a phroblemau iechyd meddwl sydd naill ai’n Byw â Chymorth neu ar y rhestr aros ar gyfer darpariaeth Byw â Chymorth.

Gwnaed hyn er mwyn paratoi ar gyfer cyfarfod Panel Craffu’r Gwasanaethau i Oedolion ar 24 Medi gyda’r Cynghorydd Mark Child, Aelod y Cabinet dros Ofal, Iechyd a Heneiddio’n Dda ac uwch-swyddogion yn y gwasanaeth, lle bydd y Panel yn trafod ‘Trefniadau Byw â Chymorth ar gyfer Oedolion â Phroblemau Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu’ ac yn gofyn cwestiynau amdanynt.

Bu gofalwyr yn trafod eu profiadau ynghylch yr hyn sy’n dda am y gwasanaeth, y rhwystrau a’r hyn y mae angen ei wella.

Mae’r Cyng. Peter Black ac aelodau eraill y Panel a oedd yn bresennol yn y grwpiau ffocws wedi gwrando ar yr adborth gan y gofalwyr sy’n rhieni, a byddant yn defnyddio’r wybodaeth hon pan fyddant yn cwestiynu ac yn darparu argymhellion ar gyfer gwella i’r Cyng. Mark Child.

Cynhelir y cyfarfod, sydd ar agor i’r cyhoedd, am 4pm yn Ystafell Bwyllgor 5, Neuadd y Ddinas, Abertawe SA1 4PE.

Os na allwch ddod i’r cyfarfod ond hoffech ofyn cwestiwn neu fynegi pryder i Banel Craffu’r Gwasanaethau i Oedolion, e-bostiwch y Tîm Craffu yn: craffu@abertawe.gov.uk

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.