Addysg Ddewisol yn y Cartref

Dewisodd y Panel Craffu Perfformiad Addysg edrych ar y mater hwn gan fod nifer y ceisiadau i ddatgofrestru disgyblion a dewis eu haddysgu gartref wedi cynyddu o ganlyniad i sefyllfa COVID-19.

Clywodd y panel nad yw’r awdurdod lleol yn gyfrifol am ddarparu Addysg Ddewisol yn y Cartref ac nid oes ganddo unrhyw rwymedigaeth statudol i’w chefnogi. Fodd bynnag, o dan Adran 436A o Ddeddf Addysg 1996, mae gan yr Awdurdod Lleol ddyletswydd i wneud trefniadau i nodi plant nad ydynt yn derbyn addysg addas.  Er nad oes fframwaith cyfreithiol ar gael i’r awdurdod lleol fonitro darpariaeth addysg yn y cartref yn rheolaidd, mae’r cyngor yn ymwybodol o’i ddyletswyddau gofal ehangach ac mae’n cysylltu â rhieni i drafod eu darpariaeth addysg yn y cartref barhaus.

Mae’r cyngor yn derbyn ac yn parchu hawl rhieni i ddewis i addysgu eu plant gartref ac mae’n ystyriol o’n ffiniau.

Gallwch wylio’r fideo o’r cyfarfod hwn drwy ddilyn y ddolen hon

Dywedwyd wrth y panel fod cymorth a mesurau diogelu’n cynnwys canolbwyntio ar feithrin perthynas gadarnhaol â’r gymuned addysg ddewisol yn y cartref, a chynnig cyfeirio, cyngor ac arweiniad. Os oes amgylchiad sy’n peri pryder, bydd swyddogion addysg yn cysylltu â gwasanaethau ac asiantaethau perthnasol eraill. Yn ogystal, gellir defnyddio Gorchmynion Presenoldeb yn yr Ysgol fel y dewis olaf os oes pryder nad yw addysg addas yn cael ei darparu.

Roedd y panel yn falch o glywed bod unrhyw ddisgybl sydd wedi derbyn addysg gartref yn gallu gwneud cais i gael ei aildderbyn mewn ysgol a gynhelir ar unrhyw adeg. Mae’r panel yn deall bod rhai rhieni’n ofni anfon eu plant yn ôl i’r ysgol oherwydd COVID, yn enwedig pan fo pryderon iechyd yn y teulu. Calonogwyd y Cynghorwyr o glywed bod ymagwedd fwy hyblyg yn cael ei defnyddio ar hyn o bryd.

Clywodd Cynghorwyr yr ymgynghorwyd ar ganllawiau statudol newydd gan Lywodraeth Cymru ym mis Hydref 2019, ond eu bod wedi’u gohirio gan y bu’n rhaid rhoi blaenoriaeth i’r ymatebion i COVID-19. Roedd y panel yn falch o glywed bod Abertawe yn barod i dderbyn gofynion y canllawiau statudol os a phryd y cânt eu rhoi ar waith.

Sicrhawyd y panel gan yr ymagwedd y mae’r cyngor yn ei defnyddio o ran addysg ddewisol yn y cartref.  Maent yn falch o glywed am y dulliau diogelu sydd ar waith, yn seiliedig ar ganllawiau cyfyngedig presennol Llywodraeth Cymru. Hoffai’r panel weld cofrestr o ddisgyblion sy’n cael addysg ddewisol yn y cartref yn cael ei llunio ond maent yn cydnabod mai Llywodraeth Cymru fyddai’n gyfrifol am hyn. Felly, mae cynghorwyr yn edrych ymlaen at weld y canllawiau statudol pan gânt eu cyhoeddi maes o law.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.