Craffu: Gadewch i ni ei ddadansoddi

Os oes angen gwybodaeth bellach arnoch mewn perthynas â’r blog hwn neu unrhyw fformatau amgen e.e. Print bras etc. ffoniwch 01792 637732 neu e-bostiwch craffu@abertawe.gov.uk

Ydych chi erioed wedi meddwl tybed beth yw diben Craffu, pam y mae yno a pha fanteision a ddaw yn ei sgîl?

Rydym wedi llunio canllaw syml i helpu i ateb y cwestiynau pwysig hyn.

Craffu

Eir ati i graffu drwy ‘holi effeithiol’ sy’n golygu gofyn y math o gwestiynau sy’n canfod ffeithiau pwysicaf mater i ddod o hyd i’r wybodaeth gywir.

Arweinir y gwaith craffu gan gynghorwyr. Mae gan Gyngor Abertawe 75 o gynghorwyr sydd wedi’u hethol yn lleol.

Mae 11 o’r cynghorwyr hyn yn Aelodau Cabinet a elwir hefyd yn Aelodau Gweithredol. Nhw yw’r prif wneuthurwyr polisi a phenderfyniadau yn y cyngor.

Mae gan bob Aelod Cabinet bortffolio gwahanol o adrannau a gwasanaethau yn y cyngor y mae’n gyfrifol amdanynt.

Mae gan weddill y cynghorwyr gyfle i fod yn rhan o’r broses graffu. Eu rôl yn y maes craffu yw dal yr Aelodau Cabinet i gyfrif, bod yn llais y cyhoedd a helpu i ysgogi gwelliannau i wasanaethau cyhoeddus y cyngor.

Cyfeirir at gynghorwyr sy’n rhan o’r gwaith craffu fel Cynghorwyr Craffu.

Mae tîm o staff y cyngor hefyd, sef Swyddogion Craffu, sy’n cefnogi’r Cynghorwyr Craffu yn eu gwaith.

Mae’r Tîm Craffu’n cyflawni amrywiaeth o dasgau. Maent yn cynorthwyo gyda chynllunio gwaith, trefnu a chefnogi cyfarfodydd, trefnu adroddiadau/gwybodaeth gan Aelodau’r Cabinet/swyddogion a’u presenoldeb, cysylltu ag adrannau ar draws y cyngor, helpu i gasglu canlyniadau o’r gwaith craffu a’u chyfathrebu, e.e., llythyrau/adroddiadau i Aelodau’r Cabinet, gyda safbwyntiau craffu, casgliadau ac argymhellion. Maent hefyd yn ymchwilio i bynciau ac yn trefnu grwpiau ffocws a phrosiectau cynnwys y cyhoedd eraill yn ogystal ag olrhain effaith gwaith y Paneli Craffu.

Pam y mae angen Adran Graffu arnom?

Cyflwynwyd craffu gan y gyfraith drwy Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 yng Nghymru a Lloegr. Mae’n rhwymedigaeth gyfreithiol i bob awdurdod lleol a chanddo drefniant gweithredol (a Chabinet sy’n gwneud penderfyniadau) gyflawni swyddogaeth ‘Trosolwg a Chraffu’.

Y prif reswm y cyflwynwyd hwn yw oherwydd bod pob awdurdod lleol yn y DU, cyn y Ddeddf hon, yn arfer gwneud penderfyniadau drwy gyfarfodydd y cyngor llawn (yr holl gynghorwyr etholedig).

Ers cyflwyno Deddf Llywodraeth Leol 2000, gall awdurdodau lleol benodi Aelodau Cabinet i wneud y penderfyniadau, ac mae’n rhaid i weddill y cynghorwyr graffu ar yr Aelodau Cabinet drwy bwyllgorau craffu.

Yn gyffredinol, dylai pwyllgorau craffu adlewyrchu cydbwysedd gwleidyddol y cyngor – sy’n golygu y dylent gynrychioli’r partïon gwleidyddol a etholwyd.

Sut mae Craffu’n gweithio?

Trefnir gwaith cyffredinol Craffu gan Bwyllgor y Rhaglen Graffu. Gr?p o Gynghorwyr Craffu yw’r pwyllgor hwn sy’n trefnu ac yn rheoli’r hyn y creffir arno bob blwyddyn. Arweinir Pwyllgor y Rhaglen Graffu gan gadeirydd. Cadeirydd presennol Pwyllgor y Rhaglen Graffu yw’r Cynghorydd Peter Black.

Bydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu’n edrych ar faterion gwahanol. Mae’r Pwyllgor yn cyfarfod bob mis ac yn aml yn cynnal sesiynau trafod gydag Aelodau’r Cabinet ar eu cyfrifoldebau portffolio. Gall aelodau’r cyhoedd hefyd gyfrannu syniadau yn y ‘Sesiynau Holi ac Ateb’ hyn. Mae Cylchlythyr Craffu’n cael ei gyhoeddi bob mis, y gallwch danysgrifio iddo yma, felly byddech yn cael gwybod pan fydd unrhyw un o’r sesiynau hyn ar y gweill.

Mae’r holl waith arall a wneir gan y Cynghorwyr Craffu’n cael ei wneud drwy grwpiau craffu gwahanol. Bydd gan bob un Gynullydd i arwain y gwaith. . Gwaith y cynullydd yw cadeirio’r holl gyfarfodydd a chysylltu ag Aelodau’r Cabinet drwy lythyrau naill ai i ofyn cwestiynau a all fod ganddynt, rhoi argymhellion ac adborth arall o gyfarfodydd a gynhaliwyd.

Mae 3 phrif fath o weithgarwch craffu y tu allan i’r Pwyllgor:

Paneli Craffu Perfformiad – mae’r rhain yn cwrdd yn rheolaidd ac yn adolygu perfformiad rhai pynciau, er enghraifft, y Gwasanaethau Cymdeithasol, Addysg, cyllidebau

Paneli Ymchwiliad Craffu – mae’r paneli hyn yn edrych ar un pwnc yn fanwl am 6 i 9 mis ac yn llunio adroddiad sylweddol sy’n cynnwys tystiolaeth a syniadau am newid ar gyfer yr aelod perthnasol o’r Cabinet.

Gweithgorau Craffu – cyfarfodydd untro yw’r rhain lle’r edrychir ar eitem o ddiddordeb mewn un cyfarfod ac yna llunnir llythyr gyda sylwadau a syniadau

Beth yw buddion craffu?

Mae craffu’n cynrychioli ‘llais’ y cyhoedd a gall gwestiynu Aelodau’r Cabinet ynghylch y gwaith maen nhw’n ei wneud. Drwy ofyn y cwestiynau iawn a darllen adroddiadau a anfonir atynt, gall y Cynghorwyr Craffu wneud sylwadau am yr hyn sy’n mynd yn dda a’r hyn y gellid ei wella.

Gan fod y gwaith craffu’n cael ei arwain gan gynghorwyr a etholwyd yn lleol, gallant fynegi safbwyntiau sy’n berthnasol i’w hardal leol a’r bobl leol sydd wedi’u hethol. Dyma’r hyn sy’n gwneud gwaith craffu’n werthfawr: hyrwyddo democratiaeth.

Mae cyfarfodydd craffu fel arfer yn agored i’r cyhoedd (oni nodir yn wahanol), ac felly gall aelodau’r cyhoedd ymgysylltu a’r tîm Craffu i sicrhau bod eu pryderon ynghylch gwasanaethau’r cyngor yn cael eu clywed.

Mae gan Gynghorwyr Craffu’r p?er i ofyn i Aelodau’r Cabinet neu Swyddogion y Cyngor o holl adrannau’r cyngor ddod i’w cyfarfodydd craffu. Yn y cyfarfodydd hyn, mae Aelodau’r Cabinet a Swyddogion yn ateb cwestiynau ac yn cyflwyno neu’n trafod y gwaith maen nhw’n ei wneud o ran y gwasanaethau sy’n rhan o’u portffolio (neu eu hadran). Mae hyn yn helpu i sicrhau y caiff gwasanaethau’r cyngor eu gwella’n gyson.

Mae Cynghorwyr Craffu hefyd yn gallu helpu i wella polisïau sydd ar waith a rhoi mewnbwn ar bolisïau sy’n cael eu datblygu neu bolisïau newydd yr edrychir arnynt o bosib yn y dyfodol.

Ar ôl pob cyfarfod, anfonir llythyr neu adroddiad at yr aelod perthnasol o’r Cabinet sy’n egluro’r hyn roedd y Cynghorwyr Craffu yn ei feddwl am y cyfarfod a pham. Cyhoeddir yr holl lythyrau sy’n cael eu hanfon at y Cabinet a’u derbyn ganddo ar wefan y cyngor.

Mae’n bwysig nodi, er y gall Cynghorwyr Craffu roi argymhellion i wella i’r Cabinet, ni allant rymuso unrhyw argymhelliad os nad yw’r Cabinet yn cytuno, neu os nad yw’n gallu (am unrhyw reswm penodol) rhoi’r argymhellion a wnaed ar waith. 

Mae gan Gynghorwyr Craffu’r p?er i “Alw i mewn’, sef i ofyn i’r Cabinet ailystyried penderfyniadau cyn eu rhoi ar waith.

Mae Craffu yno i gynrychioli’r bobl. Gall craffu effeithiol arwain at welliannau ym mholisïau a gweithdrefnau’r cyngor, sy’n beth da i bawb!

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.