Mae angen i ni roi mwy o gyfleoedd i’n plant chwarae

 

Cymru yw’r wlad gyntaf yn y byd i ddeddfu ar gyfer chwarae, gan roi dyletswydd ar awdurdodau lleol i asesu digonolrwydd cyfleoedd chwarae a hamdden i blant yn eu hardaloedd. Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i bob cyngor lleol wirio’r hyn sydd ar gael yn ei ardal a rhoi gwelliannau ar waith.  Pa mor dda mae Abertawe’n gwneud?  Dyma un o’r cwestiynau i’r Cynghorydd Mitch Theaker (Aelod y Cabinet dros Gyfleoedd i Blant a Phobl Ifanc) pan aeth i gyfarfod Pwyllgor y Rhaglen Graffu’n ddiweddar ar gyfer sesiwn holi ac ateb.

Play

Roedd chwarae’n un o’r prif bynciau trafod pan holodd Pwyllgor y Rhaglen Graffu, a gadeirir gan y Cynghorydd Mike Day, y Cynghorydd Mitch Theaker yn ei gyfarfod ar 8 Gorffennaf. Yn benodol, roedd y pwyllgor yn awyddus i ganfod sut mae’r cyngor wedi ymateb i’r ddyletswydd gyfreithiol newydd. Clywyd am arolwg annibynnol, a gynhaliwyd gan Brifysgol Abertawe, a nododd fod y ddarpariaeth bresennol yn dda’n gyffredinol. Fodd bynnag, er bod cynlluniau tymor byr a hir yn cael eu llunio, nid oes arian gan Lywodraeth Cymru tan 2014 i gefnogi unrhyw gynllun gwella, felly canolbwyntir ar hyn o bryd ar fesurau nad ydynt yn costio llawer i’w rhoi ar waith.

Clywodd y pwyllgor gan yr aelod cabinet am nifer o fentrau newydd:

Strydoedd Chwarae – mae hyn yn golygu cau stryd am gyfnod penodol er mwyn galluogi plant i chwarae’n ddiogel yn eu stryd eu hunain gyda ffrindiau sy’n byw gerllaw, wedi’u hamddiffyn rhag cerbydau. Croesawodd y pwyllgor gynlluniau i beilota hyn yn Abertawe.

Agor ysgolion i gymunedau fel y gellir defnyddio cyfleusterau/cyfarpar chwarae a fyddai fel arall dan glo yn ystod yr haf. Cefnogodd y pwyllgor unrhyw fenter a fyddai’n cynnwys mwy o ddefnydd o ysgolion er lles cymunedol.

Rhoi gwybodaeth gliriach am ddarpariaeth leol yn Abertawe ar wefan y Gwasanaeth Chwarae

Pontio’r bwlch rhwng chwarae i blant a phobl ifanc er lles y rhai sydd rhwng y ddau gr?p.

Yn ystod y cyfarfod, cafodd y pwyllgor gyfle i archwilio cyfrifoldebau, cyflawniadau a blaenoriaethau portffolio eraill yr aelod cabinet. Mae cynnwys llawn llythyr a anfonwyd gan yr aelod cabinet yn dilyn y cyfarfod ynghlwm wrth y post hwn. Mae hyn yn myfyrio ar yr hyn a ddysgodd y pwyllgor gan y drafodaeth, a’i safbwyntiau.

Mae gan y pwyllgor rôl bwysig wrth ddwyn cabinet y cyngor i gyfrif. Trwy weithredu fel ‘cyfaill beirniadol’, mae gan y pwyllgor craffu’r cyfle i herio’r Cabinet a’i Aelodau unigol ar eu gweithredoedd a monitro perfformiad mewn perthynas â’u meysydd cyfrifoldeb. Mae Pwyllgor y Rhaglen Graffu wedi trefnu sesiynau gyda holl Aelodau’r Cabinet yn ystod y flwyddyn er mwyn eu holi am eu gwaith.

 

13 Gorffennaf 29 Llythyr at y Cyng. Theaker

 

Llun: Dinas a Sir Abertawe

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.