Felly, efallai’ch bod wedi cael eich gwahodd i roi tystiolaeth i’r Adran Graffu ac rydych yn meddwl beth yw ei hanfod. Efallai’ch bod bach yn nerfus hyd yn oed. Peidiwch â phoeni! Nid yw’r Adran Graffu am graffu arnoch chi na’ch sefydliad. Ond mae am elwa ar eich gwybodaeth, eich profiad a’ch cyngor.
Craffu yw cynghorwyr sydd ddim yn y cabinet yn cadw llygad ar wasanaethau a pholisïau, dwyn y rhai sy’n gwneud penderfyniadau i gyfrif a gwneud argymhellion ar gyfer gwella. Yn Abertawe, mae hyn yn cynnwys pedwar prif fath o waith:
- Ymchwiliadau manwl i bynciau llosg a chyhoeddi adroddiad pwysig gydag argymhellion. Mae’r ymchwiliadau hyn, sy’n cymryd tua chwe mis, yn cymryd tystiolaeth o amrywiaeth eang o ffynonellau. Mae enghreifftiau diweddar yn cynnwys twristiaeth, tai fforddiadwy a chludiant cyhoeddus – gallwch weld y rhain ac enghreifftiau eraill yn y llyfrgell adroddiadau craffu.
- Gweithgorau un tro sydd fel arfer yn cyfarfod unwaith yn unig cyn dod i gasgliadau a chyflwyno cynigion. Mae enghreifftiau diweddar yn cynnwys diwygio lles a phrydau ysgol.
- Monitro perfformiad gwasanaethau allweddol y cyngor, megis ysgolion neu’r gwasanaethau cymdeithasol, yn barhaus.
- Sesiynau holi ac ateb cyhoeddus gydag aelodau Cabinet y cyngor. Yn wahanol i fathau eraill o waith, a wneir mewn cyfarfodydd anffurfiol, cynhelir y sesiynau hyn fel rhan o gyfarfodydd pwyllgor ffurfiol.
Os ydych wedi’ch gwahodd i’r Adran Graffu, mae oherwydd eich bod wedi’ch nodi fel rhywun sy’n wybodus am wasanaeth neu faes polisi. Yn ôl pob tebyg, bydd y cyfarfod yn anffurfiol â nifer bach o gynghorwyr gyda chefnogaeth swyddog y cyngor a gysylltodd â chi. Bydd y dystiolaeth a roddir gennych yn cael ei hymgorffori’n adroddiad neu’n llythyr a gyhoeddir yn nes ymlaen.
Mae’r Adran Graffu’n awyddus i glywed gennych hyd yn oed os nad ydych wedi’ch gwahodd i roi tystiolaeth yn bersonol. Cesglir adborth mewn amrywiaeth o ffyrdd gwahanol, gan ddibynnu ar y pynciau. Cadwch lygad ar y wefan hon.
Mae gennym ddiddordeb bob amser mewn syniadau ar gyfer pynciau newydd i’w hystyried. E-bostiwch scrutiny@swansea.gov.uk os hoffech awgrymu rhywbeth neu os hoffech wybod mwy am rywbeth.
Yn y cyfamser, gwelwch ein harweiniad tyst a’n harweiniad i’r cyhoedd yma.
Ffoto: Dinas a Sir Abertawe
Leave a Comment