Galw am Dystiolaeth: Ymchwiliad i Fewnfuddsoddi yn Abertawe

Mae’r farchnad fewnfuddsoddi wedi bod yn ddirwasgedig dros y blynyddoedd diwethaf gyda’r cyflwr economaidd byd-eang yn golygu bod lefel ymholiadau a diddordeb arwyddocaol yng Nghymru wedi dirywio. Wrth i’r economi wella fodd bynnag, mae angen i Abertawe fod yn barod i gwrdd â dyheadau a disgwyliadau’r buddsoddwyr yr hoffai eu denu fwyaf.

Mae’r Cynghorwyr Craffu hefyd wedi dewis edrych ar fewnfuddsoddi oherwydd:

  • Mae’n elfen ganolog i strategaeth economaidd leol a rhanbarthol
  • Mae wedi’i nodi drwy ymgynghori fel pwnc allweddol o bryder i’r cyhoedd, i gynghorwyr a staff y cyngor

220155450_27a2afcca3[1]

Sefydlwyd Ymchwiliad Craffu i edrych ar Fewnfuddsoddi, ac mae’n gofyn am eich barn.

Mae Cynghorwyr yn gofyn

Sut gallwn ni gynyddu mewnfuddsoddi yn Abertawe ac yn rhanbarthol ar gyfer de-orllewin Cymru?

 

Hoffai’r panel glywed eich barn ar y meysydd canlynol:

  • Ffactorau allweddol ar gyfer denu busnes i Abertawe a’r rhanbarth
  • Sut i gefnogi busnesau bach ac entrepreneuriaeth yn lleol ac yn rhanbarthol?
  • Y rhwystrau i fewnfuddsoddi
  • Sut i weithio ar draws y rhanbarth i gyflwyno dyheadau?
  • Sut mae Cyngor Abertawe a’i bartneriaid yn cydweithio i annog busnesau i ddod yma?
  • Sut mae Strategaeth Twf ar gyfer Dinas-ranbarth Bae Abertawe’n adlewyrchu anghenion Abertawe?

 

Sut i gyflwyno eich barn?

Mae grwpiau neu unigolion â diddordeb yn cael eu hannog i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i’r ymchwiliad drwy e-bostio scrutiny@swansea.gov.uk

Bydd y panel yn ystyried unrhyw dystiolaeth a dderbynnir erbyn 11 Hydref 2013 yng nghamau cynnar wrth gynllunio eu hymchwiliad ond byddent yn croesawu barn drwy gydol y broses. Gall y panel gysylltu â chi i drafod eich tystiolaeth. Bydd y dystiolaeth a gyflwynir yn cael ei chyhoeddi fel rhan o’r ymchwiliad, os nad ydych am i’ch tystiolaeth gael ei chyhoeddi, nodwch hyn yn glir.

Cydnabyddiaeth llun: www.flickr.com/photos/13249968@N00/220155450 

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.