Helpu i wella bywydau plant sy’n derbyn gofal

Cynhaliodd grwp o gynghorwyr ymchwiliad manwl i sut mae’r cyngor a’i bartneriaid yn darparu gwasanaethau i blant sy’n derbyn gofal. Ar ddiwedd yr ymchwiliad, cyflwynodd y cynghorwyr ar y Panel Ymchwiliad Craffu Gwasanaethau i Blant sy’n Derbyn Gofal 15 o argymhellion yn eu hadroddiad i’r Cabinet. Eu gobaith oedd y byddai hyn yn gwella bywydau a phrofiadau plant sy’n derbyn gofal.

image depicting Image 6

Gofynnwyd i  Aelod y Cabinet dros Les, y Cynghorydd Mark Child, ymateb i bob un o’r 15 argymhelliad a llunio cynllun i ddangos sut y byddai pob un o’r argymhellion cymeradwy’n cael ei roi ar waith.

Cyflwynwyd  ymateb a chynllun gweithredu’r Aelod Cabinet i gyfarfod y Cabinet yn gynharach yr wythnos hon a derbyniwyd pob un o’r argymhellion (1 yn rhannol) gan y Cynghorydd Mark Child.

Mae hyn yn newyddion da oherwydd y gellir gwneud cynnydd gyda nifer o faterion pwysig, gan gynnwys ystyried y canlynol:

 

  • Digonolrwydd adnoddau yn nhîm y Swyddog Adolygu Annibynnol
  • Gweithio ar y cyd i ddatblygu’r defnydd o rwydweithiau cefnogi cymunedol i atal teuluoedd rhag chwalu
  • Lobïo dros barhad grantiau cenedlaethol sy’n cefnogi cyrhaeddiad addysgol plant sy’n derbyn gofal
  • Lleihau nifer y lleoliadau gofal maeth y tu allan i’r sir
  • Sicrhau bod y pecyn gofalwyr maeth yn parhau’n ddeniadol i ofalwyr maeth newydd a’r rhai sy’n maethu eisoes.
  • Darparu cyngor ar les i blant sy’n derbyn gofal wrth iddynt adael gofal

Bydd y Panel Ymchwiliad yn cwrdd eto i fonitro’r cynllun gweithredu dros y 12 mis nesaf. Bydd hyn yn helpu craffu i fesur effaith y gwaith hwn a’r gwahaniaeth a wnaed. Bydd y Panel Ymchwiliad yn adrodd yn ôl i Bwyllgor y Rhaglen Graffu gan gyflwyno ei farn am gynnydd yr argymhellion a sut maent yn cael eu gweithredu.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.