Amddiffyn plant drwy Arwyddion Diogelwch

 

Roedd y Panel Perfformiad Lles am wybod sut roedd Gwasanaethau Plant a Theuluoedd Abertawe’n defnyddio’r model Arwyddion Diogelwch i ddiogelu plant yn Abertawe y nodwyd eu bod ‘mewn perygl’.

Bwriad model Arwyddion Diogelwch yw helpu ymarferwyr wrth asesu risg a llunio cynlluniau diogelwch mewn achosion amddiffyn plant.

Ei ddiben yw galluogi ymarferwyr ar draws disgyblaethau gwahanol i gydweithio â’i gilydd ac mewn partneriaeth â theuluoedd a phlant. Dyluniwyd yr offer er mwyn helpu i gynnal asesiadau risg a llunio cynlluniau gweithredu i gynyddu diogelwch a lleihau risg a pherygl, drwy nodi meysydd lle mae angen newid, wrth ganolbwyntio ar gryfderau’r teulu a’r adnodau a’r rhwydweithiau’r sydd ar gael iddynt.

image depicting Early Years Board

Dywedodd y cynghorwyr ar y panel perfformiad fod hyn yn ffordd gadarnhaol a blaengar o amddiffyn plant a’i fod yn ddull da o atal ac ymyrryd yn gynnar. Roedd llwyddiant y timau gwaith cymdeithasol, pan ddefnyddiwyd fframwaith arwyddion diogelwch, wedi creu argraff dda ar y cynghorwyr.

 Mae’r cynghorwyr wedi gofyn bellach bod Aelod y Cabinet dros Les, y Cynghorydd Mark Child, yn cyflwyno ei farn am yr angen i ddangos canlyniadau cadarnhaol tymor hwy ar gyfer y model hwn a’u bod yn cael eu hysbysu am unrhyw ddysgu a/neu ymchwil i’r model Arwyddion Diogelwch.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.