Sut gall y cyngor wella cynnwys y cyhoedd? – Galw am dystiolaeth

Mae’r Panel Cynnwys y Cyhoedd ar fin dechrau ymchwiliad ynghylch sut gall y cyngor wella ei arferion cynnwys y cyhoedd, staff a phartneriaid.
Mae hwn yn fater arwyddocaol a strategol a nodwyd yn y Cynllun Integredig Sengl sy’n blaenoriaethu cydweithio er mwyn gwneud Abertawe’n lle gwell ac i wella lles cymunedol mewn ffordd sy’n ddemocrataidd, yn cynnwys pawb heb gyfaddawdu ar anghenion cenedlaethau’r dyfodol. Mae cynnwys y cyhoedd a sut gall y cyngor wella wedi’u nodi fel pethau pwysig wrth ymgynghori â chynghorwyr, gan gynnwys cynghorwyr craffu, y cyhoedd a staff.

Er mwyn deall y materion hyn ac i ateb rhai o’r cwestiynau hyn, mae’r panel yn gwahodd cyflwyniadau ysgrifenedig ar yr ymchwiliadau canlynol:

  • Sut mae’r cyngor yn bodloni’r amcanion a nodwyd yn ei strategaeth ymgynghori ac ymrwymiad?
  • Pa mor dda y mae Lleisiau Abertawe’n cael ei ddefnyddio i gynnwys y cyhoedd wrth i’r cyngor wneud penderfyniadau?
  • Pa ymgynghori, ymrwymiad a chynnwys arfer da sy’n bodoli yn y cyngor a’r tu allan iddo?
  • Sut mae’r cyngor yn hyrwyddo cyfranogiad yn y Bwrdd Gwasanaethau Lleol?
  • Sut bydd cyfyngiadau ar y gyllideb yn effeithio ar allu’r cyngor i ymgynghori, cynnwys a chysylltu â’i randdeiliaid?

 

Sut i gyflwyno eich barn

Mae grwpiau neu unigolion â diddordeb yn cael eu hannog i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i’r ymchwiliad drwy e-bostio scrutiny@swansea.gov.uk

Bydd y panel yn ystyried unrhyw dystiolaeth a dderbyniwyd yng nghamau cynnar eu hymchwiliad ond byddent yn croesawu barn drwy gydol y broses. Disgwylir i’r ymchwiliad ddod i ben fis Mawrth y flwyddyn nesaf.  Gall y panel gysylltu â chi i drafod eich tystiolaeth. Bydd yr holl dystiolaeth a gyflwynir yn cael ei chyhoeddi fel rhan o’r ymchwiliad. Os nad ydych am i’ch tystiolaeth gael ei chyhoeddi, rhowch wybod i ni.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.