Saith ffordd mae cynghorau Cymru wedi cynnwys y cyhoedd

 

Mae cynnwys y cyhoedd yn chwarae rhan hanfodol wrth wneud penderfyniadau. Mae’n gwneud i’r cyhoedd deimlo wedi’i rymuso y gall chwarae rôl allweddol wrth ddylanwadu ar benderfyniadau. Mae cynifer o ffyrdd o gynnwys y cyhoedd. Mae’n bwysig i ni ddysgu trwy gynnwys y cyhoedd yn llwyddiannus fel y gellir trosglwyddo arfer da.

 

Roedd Panel Ymchwilio Craffu Cynnwys y Cyhoedd eisiau clywed am enghreifftiau o arfer da cynnwys y cyhoedd yn fewnol ac yn allanol.

 

Mae cynghorau Cymru wedi gwneud llawer o waith cynnwys y cyhoedd, felly roedd yn anodd gwybod lle i ddechrau.

6236367067_60c4c83f00_n

Dyma’r rhai roedden ni’n meddwl y dylech chi gael cip arnyn nhw:

1) Cyngor Sir Ddinbych, Cynnwys Cymuned Parc Cae Ddol –  Cyllidebu Cyfranogol   Cafodd cymuned ei chynnwys wrth benderfynu sut mae gwario arian yn yr ardal. Arweiniodd hyn at gyfleuster newydd yn y parc i’r plant ac roedd y preswylwyr yn teimlo wedi’u grymuso a’u cynnwys yn fwy wrth wneud y penderfyniad.

2) Cyngor Sir Gâr, Her Gymunedol Sir Gâr – Ymarferion ymgynghori mewn cymuned fach  Ymgymerodd y cyngor ag ymarfer ymgynghori a chynnwys dwys mewn cymuned fach i weld sut gallai cynnwys effeithiol greu newidiadau i ymwybyddiaeth ac ymddygiad cyhoeddus mewn ffordd sy’n lleihau ei ôl troed carbon.

3) Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Mynd i’r Afael â Cham-drin yn y Cartref –  Dull Brigâd Kafka  Cafodd Brigâd Kafka ei chynnwys gan Fwrdd Gwasanaethau Lleol Rhondda Cynon Taf i adolygu ymatebion y gwasanaeth i gam-drin yn y cartref.

4) Bwrdd Diogelu Plant Abertawe –  Daeth aelodau Bwrdd Diogelu Plant Abertawe a phobl ifanc at ei gilydd i ddatblygu a thrafod blaenoriaethau’r bwrdd. Roedd yr wybodaeth a gasglwyd yn nodi blaenoriaethau’r bwrdd ar gyfer 2013.

5) Fforwm Magu Plant Corfforaethol Abertawe – Sesiynau Herio  Mae’r Fforwm Magu Plant Corfforaethol ac aelodau Fforwm Fe Fi a grwpiau eraill o blant sy’n derbyn gofal yn gweithio gyda’i gilydd yn ystod y sesiynau hyn ar fater neu faes pwnc penodol. Mae’r sesiynau hyn yn amlygu’r meysydd y mae angen eu gwella.

6) Tîm Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc –  Y Sgwrs Fawr Roedd y prosiect hwn ynghylch darparu mannau diogel ond anffurfiol i bobl ifanc 11-25 oed ddod ynghyd ac archwilio’r hyn sydd o bwys iddyn nhw a’u cefnogi i leisio materion i benderfynwyr priodol a pherthnasol i lywio newid.

7) Tîm Craffu Abertawe –  Adolygu’r Strategaeth Feicio Diben yr adolygiad oedd datblygu a hyrwyddo beicio yn Abertawe fel ffordd amgylcheddol ac iach o deithio at ddibenion cludiant a hamdden. Defnyddiwyd nifer o ddulliau i gasglu gwybodaeth ar gyfer yr adolygiad hwn a arweiniodd at nifer o welliannau.

Mae’r saith enghraifft hyn yn rhoi blas o’r amrywiaeth eang o gynnwys y cyhoedd sy’n cael ei wneud yng Nghymru.

Bydd y panel yn defnyddio’r wybodaeth hon yn ei ymchwiliad i gynnwys y cyhoedd sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd. Mwy o wybodaeth yn y man am yr ymchwiliad hwn.

Cydnabyddiaeth llun: http://www.flickr.com/photos/31209984@N06/6236367067

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.