Oes angen i ni wella’n parciau lleol?

Mynegwyd pryderon mewn cyfarfod ym mis Mai 2013 am y sylw a roddir i gynnal parciau lleol yn Abertawe ac awgrymwyd ar yr adeg y gallai fod angen gwneud mwy o waith. O ganlyniad, sefydlwyd gweithgor i edrych ar y gwasanaeth parciau yn Abertawe, sut mae’r rhain yn cael eu cynnal ac a oes lle i wella.

photo

Cwmdonkin Park, Swansea

Aeth rhai o’r prif swyddogion sy’n gyfrifol am gynnal y parciau i’r cyfarfod i ateb nifer o gwestiynau, megis:

  • Ydy’r parciau yn y gymuned leol yn cael eu cynnal yn dda? Oes digon o sylw’n cael ei roi i’w cynhaliaeth?
  • Ydy parciau lleol yn ddiogel a heb fandaliaeth ac ymddygiad gwrthgymdeithasol?
  • Beth mae parciau lleol yn cael eu defnyddio ar ei gyfer? (Perfformiad a Thueddiadau Presennol?)
  • Beth fu llwyddiant y Faner Werdd?
  • Beth yw goblygiadau ariannol cynnal parciau lleol?
  • Beth yw’r heriau a’r cyfleoedd yn y dyfodol?

Clywodd y gr?p lawer o ffeithiau diddorol am y gwasanaeth parciau a’r gwaith sy’n cael ei wneud i’w cynnal fel mannau pleser ac ymlacio. Hefyd, dysgon nhw am y mathau o barciau, megis parciau dinas (Parc Singleton), Parciau Gwledig (Gerddi Clun) a Pharciau Arbenigol (Gerddi Botaneg, Gerddi Clun, Plantasia, Gerddi Addurnol, Parc Brynmill a Pharc Cwmdoncyn) a beth mae pob un o’r rhain yn ei gynnig.

Hefyd, nodwyd bod y Gwasanaeth Parciau’n gyfrifol am gynnal llawer mwy na’n parciau lleol. Mae mannau eraill a gynhelir gan y Gwasanaeth Parciau’n cynnwys: caeau pêl-droed a rygbi (mewn parciau ac ysgolion, lawntydd bowls, sgwariau criced, lleoedd chwarae, mynwentydd a rhandiroedd.   Mae’r gwasanaeth yn ymroddedig i gefnogi datblygiad rhagoriaeth chwaraeon, twristiaeth a garddwriaethol yr awdurdod trwy fannau gwyrdd sy’n cyd-fynd â harddwch naturiol eithriadol y ddinas a’r sir ac yn ei wella.

Bydd yr atebion i’r cwestiynau hyn, yn ogystal â gwybodaeth arall a gafwyd yn y cyfarfod, yn cael eu trosglwyddo mewn llythyr at aelod y Cabinet, ynghyd â chasgliadau ac argymhellion, er y cytunodd pawb yn gyffredinol bod safon gwaith y Gwasanaeth Parciau’n uchel ac oherwydd hyn mae gan breswylwyr Abertawe ddewis o amrywiaeth mawr o barciau a gwasanaethau i’w mwynhau.

Os ydych yn teimlo bod gennych rywbeth i’w ychwanegu at y pwnc hwn, e-bostiwch scrutiny@swansea.gov.uk.

Cydnabyddiaeth llun: http://www.flickr.com/photos/swansealocalboy/6378211245/

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.