Tair ffordd y gall eich partneriaeth wella cynnwys y cyhoedd

 

Yn gyffredinol, rydyn ni, fel dinasyddion, yn fodlon cymryd rhan a rhannu ein barn am faterion sy’n effeithio arnom.  Fodd bynnag, mae partneriaethau, fel Byrddau Gwasanaethau Lleol, yn cael trafferth gyda hyn ac nid yw’n wahanol i BGLl Abertawe.  Dyma dri awgrym y bydd eich partneriaeth efallai am eu hystyried.

 

Gofynnodd Panel Ymchwilio Craffu Cynnwys y Cyhoedd sut gall Bwrdd Gwasanaethau Lleol Abertawe fod yn well wrth ein cynnwys i rannu ein barn a’n syniadau.  Cytunodd Cyfranogaeth Cymru, Aelod perthnasol y Cabinet a Llywodraeth Cymru, pwysigion byd cynnwys y cyhoedd, y gellid ei wneud.  ‘Sut’ y gellid ei wneud oedd y pwnc llosg yng nghyfarfod y panel.

Flckr image for blog

Dyma dri syniad

Rhoi wyneb cyhoeddus iddo

Addysgu’r cyhoedd. Trwy ein sianeli digidol a chyfathrebu eraill, gyhoeddi pam mae ein partneriaeth yn bodoli, beth mae’n ei wneud, beth mae wedi’i gyflawni a beth mae’n gobeithio ei gyflawni.

Ei wneud yn berthnasol

Os yw mater yn effeithio ar bobl, byddan nhw’n fodlon lleisio’u barn i chi.  Nid yw’n addas cynnwys y cyhoedd ym mhob mater ac nid yw pawb am gael ei gynnwys. Culhewch ffocws yr ymgynghoriad i ysgogi grwpiau penodol y mae ganddynt rywbeth i’w gyfrannu ac am gyfrannu rhywbeth ar fater penodol i gymryd rhan.

Ei wneud yn hygyrch

Ei wneud yn haws i bobl gymryd rhan.  Defnyddio rhwydweithiau a mecanweithiau presennol i ddarparu ffyrdd i bobl gymryd rhan – does dim angen ailddyfeisio’r olwyn!  Os yw’n gweithio, does dim angen ei newid.

Yn sicr doedd y syniadau hyn a ddaeth o drafodaethau’r panel ddoe ddim yn newydd, ond roedden nhw o ddiddordeb i’r panel a chafwyd trafodaeth wych.  Bydd y panel yn cadw llygad ar hyn a thystiolaeth arall pan ddaw i’w adroddiad terfynol a’i argymhellion yn y gwanwyn y flwyddyn nesaf.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.