Galw am Dystiolaeth: Panel Ymchwilio Craffu Gwaith Cymdeithasol yn y Cartref

Sefydlwyd panel ymchwilio craffu newydd sy’n edrych ar ffyrdd y gall Cyngor Abertawe a’i bartneriaid gefnogi pobl h?nfel y gallant aros yn eu cartrefi eu hunain, yn hytrach na chael eu gorfodi i symud i ofal preswyl neu i gartrefi gofal.

Dros y misoedd nesaf bydd y panel yn ymchwilio i sawl agwedd ar ofal cymdeithasol yn y cartref, neu ofal yn y cartref (cyfeiriwyd ato fel ‘gofal cartref’ yn flaenorol) gan ganolbwyntio’n bennaf ar sut mae’r cyngor yn gweithio gyda’i bartneriaid allweddol ar hyn o bryd.

Social Care at Home

Mae cynghorwyr wedi dewis edrych ar Ofal Cymdeithasol yn y Cartref oherwydd:

  1. Gofal cymdeithasol yw un o brif feysydd gwasanaeth cyhoeddus y cyngor.
  2. Mae’r galw am nifer y bobl sy’n derbyn gofal yn eu cartrefi eu hunain yn cynyddu.
  3. Mae’r galw am wasanaethau gofal cartref wedi cynyddu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf gan fod disgwyliadau wedi newid ac mae llawer mwy o bobl am aros yn eu cartrefi eu hunain bellach;
  4. Mae’n bwysig iawn fod gwasanaethau gofal cymunedol yn cael eu harwain gan anghenion. Mae cael gwasanaeth gofal wedi’i strwythuro sy’n diwallu anghenion a dymuniadau pobl yn arbennig o bwysig er mwyn rhoi polisïau Gofal Cymunedol cenedlaethol a lleol ar waith yn llwyddiannus ar gyfer poblogaeth gynyddol sy’n heneiddio.
  5. Er mwyn parhau i ddarparu gwasanaethau cynaliadwy bydd yn rhaid ail-gydbwyso’r ddarpariaeth trwy symud adnoddau o fewn darpariaeth y Sector Cyhoeddus;
  6. Mae pryder nad yw model presennol y ddarpariaeth gwasanaeth preswyl yn ddigon cadarn i ddarparu gwasanaeth cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

Y prif ymholiadau fydd:

  1. Pa mor dda mae’r cyngor yn gweithio gyda’i bartneriaid?
  2. Pa mor dda mae’r system yn cael ei monitro a’i rheoli?
  3. Sut dylid ariannu’r system a chaffael adnoddau?
  4. Beth ddylai’r blaenoriaethau fod ar gyfer gofal cymdeithasol yn y cartref?

Sut mae rhoi eich barn

Anogir grwpiau neu unigolion â diddordeb i gyflwyno’u tystiolaeth ysgrifenedig trwy e-bostio scrutiny@swansea.gov.uk. Efallai y bydd y Panel yn cysylltu â chi i drafod eich tystiolaeth. Bydd yr holl dystiolaeth a gyflwynir yn cael ei chyhoeddi fel rhan o’r ymchwiliad. Os nad ydych am i’ch tystiolaeth gael ei chyhoeddi, nodwch hynny’n glir.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.