Craffu’r Bwrdd Gwasanaethau Lleol: pam mae’n bwysig

Sefydlwyd panel perfformiad craffu newydd i edrych ar waith Bwrdd Gwasanaethau Lleol Abertawe.One Swansea RGB Logo 72dpi

Mae’r Bwrdd Gwasanaethau Lleol yn gyfrifol am fynd i’r afael â rhai o’r problemau mawr sy’n effeithio ar ddinasyddion Abertawe, gan gynnwys cam-drin yn y cartref, cymwysterau i oedolion, anweithgarwch economaidd, dyled, marwolaethau cynnar y gellir eu hatal, disgwyliad oes, annibyniaeth i bobl h?n. Dyma ddewis o’r 21 o flaenoriaethau y mae’r Bwrdd Gwasanaethau Lleol wedi’u targedu, felly mae llawer o waith i’w wneud.

Mae Bwrdd Gwasanaethau Lleol Abertawe’n cynnwys prif ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus Abertawe yn ogystal â’r sectorau gwirfoddol a busnes a chynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru. Ei ddiben yw sicrhau bod y rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn cydweithio i fynd i’r afael â’r materion sydd o bwys i Abertawe. Mae ganddo ddwy brif rôl:

  • Ei nod yw gwneud Abertawe’n lle gwell drwy arwain datblygiad a chyflwyniad Cynllun Un Abertawe. Rôl strategol yw hon sy’n golygu cyflwyno gwasanaethau mewn ffordd symlach a sicrhau bod pawb yn gweithio tuag at yr un blaenoriaethau y cytunwyd arnynt.
  • Mae’n gweithredu fel datryswr problemau ac yn ceisio mynd i’r afael â nifer bach o faterion cyflwyno gwasanaethau. Mae’r rhain fel arfer yn faterion lle mae nifer mawr o ddarparwyr a lle mae dinasyddion o bosib yn gweld bod gwasanaethau’n ddryslyd ac yn anodd cael mynediad iddynt. Mae’r rhain hefyd yn faterion sy’n bwysig i’r gymuned leol ond sydd wedi bod yn anodd eu datrys.

Mae’n hanfodol bod y Bwrdd Gwasanaethau Lleol yn destun yr un fath o graffu a phob agwedd arall ar waith y cyngor. Nod y Panel fydd gweld faint o wahaniaeth y mae’r Bwrdd Gwasanaethau Lleol yn ei wneud i les y bobl sy’n byw ac sy’n gweithio yn Abertawe. Mae gwaith partneriaeth ar y raddfa hon yn cymryd llawer o amser ac ymdrech ac mae’n dibynnu ar ewyllys da y sefydliadau sy’n cymryd rhan, fel bod y Panel yn gallu cefnogi a chynorthwyo’r gwaith pwysig hwn drwy weithredu fel cyfaill beirniadol a helpu i wella’r ffordd y gwneir pethau.

Cynhelir cyfarfod nesaf y Panel ar 21 Gorffennaf ac mae croeso i aelodau’r cyhoedd. Cysylltwch â’r tîm craffu am fanylion.

scrutiny@swansea.gov.uk neu 01792 636292

 

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.