Ffordd flaengar o graffu ar berfformiad ysgolion

picviewbigMae cynghorwyr yn Abertawe wedi creu ffordd flaengar o graffu ar berfformiad ysgolion yn Abertawe. Maent wedi cwrdd ag ysgolion, cadeiryddion llywodraethwyr ac arweinwyr systemau i nodi arfer da ac i edrych ar ysgolion sydd efallai’n peri pryder.  Maent yn cynnal sesiwn baratoi gydag arweinydd system yr ysgolion unigol ac yna maent yn cwrdd â’r Pennaeth a Chadeirydd y Llywodraethwyr.  Yna mae’r panel yn cyflwyno eu barn, eu sylwadau a’u hargymhellion i Aelod y Cabinet dros Ddysgu a Sgiliau ac i’r ysgol.

Mae’r broses hon hefyd wedi helpu’r panel i ddatblygu ei raglen waith ar gyfer y dyfodol drwy dynnu sylw at faterion a allai fod o bryder arbennig i ysgolion a’r awdurdod addysg. Daw nifer o’r materion y bydd y panel yn edrych arnynt eleni o’r broses hon gan gynnwys er enghraifft: cysondeb mewn asesiadau athrawon ac ystafelloedd dosbarth, defnydd yr ysgol o’r grant amddifadedd disgyblion a recriwtio a pherfformiad uwch staff mewn ysgolion. Os hoffech gael mwy o wybodaeth am sut mae cynghorwyr Abertawe’n cynnal eu gwaith craffu ar berfformiad ysgolion, cysylltwch â ni drwy e-bostio craffu@abertawe.gov.uk

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.