Craffu’n ystyried sut mae ysgolion yn delio â materion cymhwysedd staff

blog2Bydd y Panel Craffu Perfformiad Ysgolion, yn eu cyfarfod heddiw, yn ystyried sut mae’r cyngor yn cynghori ac yn cefnogi ysgolion wrth ddelio ag athrawon y mae eu perfformiad yn wan a hefyd wrth recriwtio uwch aelodau o staff i ysgolion.Dyma un o’r materion a amlygwyd ar gyfer gwaith ychwanegol gan y panel pan siaradon nhw ag ysgolion dros y flwyddyn ddiwethaf.

Roedd diddordeb penodol gan y panel mewn gwybod:

  • Pa arweiniad a llenyddiaeth a roddir i ysgolion a chyrff llywodraethu yngl?n â’r materion hyn;
  • Sut mae ysgolion yn cael eu cefnogi a’u cynorthwyo gan y cyngor;
  • Pa hyfforddiant a ddarperir i dimau arweinyddiaeth mewn ysgolion yngl?n â’r materion hyn;
  • Beth yw cyfrifoldebau’r awdurdod addysg am y materion hyn o ystyried statws datganoledig ysgolion.

Bydd y panel yn cwrdd ag Adran Adnoddau Dynol y cyngor a’r Prif Swyddog Addysg i drafod y materion hyn ac yna bydd yn nodi ei farn mewn llythyr at aelod/au perthnasol y Cabinet.

Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth am y gwaith hwn neu graffu’n gyffredinol, gallwch gysylltu â ni yn scrutiny@swansea.gov.uk

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.