Y Diweddaraf am yr Ymchwiliad Craffu ar Gynhwysiad Addysg

1 inclusion

Yn wreiddiol roedd y cyngor wedi bwriadu cynnal ymchwiliad i Gynhwysiad Addysg, yn enwedig addysg y tu allan i’r ysgol, ym mis Ebrill. Tynnwyd sylw at y pryder hwn yn yr argymhelliad diweddar gan wasanaethau addysg yr awdurdod lleol ar gyfer plant a phobl ifanc. Nododd Arolygiad Estyn fod rhaid i ni ‘wella ansawdd y ddarpariaeth ar gyfer y disgyblion hynny a addysgir y tu allan i’r ysgol, yn enwedig i godi safonau cyflawniad a chynorthwyo ailintegreiddio’n ôl i ysgolion’.

Fodd bynnag, roedd adolygiad allanol o’r gwasanaethau hyn yn cael ei gynnal ar y pryd ac felly penderfynodd y Panel ohirio’r ymchwiliad craffu. Penderfynodd y Panel Ymchwilio, yn hytrach na dyblygu’r gwaith a oedd eisoes yn cael ei wneud, y byddent yn disgwyl nes bod yr adolygiad allanol wedi’i gwblhau ac yn barod i adrodd ar ei ganfyddiadau. Disgwylir y bydd hyn yn digwydd yn yr hydref.

Bydd y Panel yn ymgynnull unwaith eto o gwmpas yr adeg honno gyda chyfarfod i drafod canfyddiadau’r adolygiad allanol. Yna bydd yn rhannu ei farn a’i sylwadau â Phwyllgor y Rhaglen Graffu yngl?n â sut y dylai’r tîm craffu symud ymlaen.

Cadwch lygad ar y blog lle byddwn yn rhoi’r newyddion diweddaraf i chi.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.