Craffu’n ystyried sut mae ysgolion yn mynd i’r afael â materion cymhwysedd staff

blog2

Yn y cyfarfod ar 3 Gorffennaf, ystyriodd y Panel Perfformiad Ysgolion sut mae’r awdurdod yn ymdrin ag athrawon sy’n perfformio’n wael a recriwtio uwch-staff mewn ysgolion.  Aeth y Prif Swyddog Addysg a’r Pennaeth Adnoddau Dynol i’r cyfarfod i drafod nifer o faterion penodol, yn enwedig am swm a chywirdeb cadw cofnodion mewn ysgolion sy’n ymwneud â materion staffio.

O’r drafodaeth, amlygodd y panel y canlynol mewn llythyr at Aelod y Cabinet dros Ddysgu a Sgiliau:

  • Roedd diddordeb gan y panel glywed bod gr?p adnoddau dynol rhanbarthol ar gyfer chwe ardal awdurdod lleol sy’n ystyried polisïau cymhwysedd mewn ysgolion yn y rhanbarth hwnnw ar hyn o bryd.  Roedd y panel yn awyddus i bwysleisio bod yn rhaid i’r polisi, i fod yn effeithiol, amlinellu beth yw’r disgwyliadau allweddol gan aelod o staff, a hefyd bwysigrwydd ansawdd cadw cofnodion mewn ysgolion.
  • Pan godir materion cymhwysedd gydag aelod staff, mae’n bwysig cynnwys yr unigolyn a’r undeb llafur cysylltiedig yn gynnar.  Mae’r panel yn credu ei bod yn bwysig cyflwyno’r pryderon hyn yn gynnar fel y gellir mynd i’r afael â nhw’n gyflym ac fel nad ydynt yn cael effaith andwyol ar yr addysg a ddarperir i blant a phobl ifanc y gallent effeithio arnynt.
  • Mae’n rhaid i ysgolion gadw cofnodion o ansawdd da o faterion adnoddau dynol oherwydd ei bod yn anodd bwrw ymlaen â’r broses gymhwysedd os nad yw dogfennaeth ar waith.  Mae’r panel yn credu nad yw hyn wedi digwydd mewn rhai ysgolion yn y gorffennol.  Mae angen monitro a sicrhau ansawdd i sicrhau bod hyn yn digwydd.
  • Clywsom y syniad am academi arweinyddiaeth i benaethiaid, uwch-staff ysgolion ac arweinwyr uchelgeisiol ac roeddem yn meddwl ei fod yn gysyniad ardderchog.
  • Rydym yn credu y byddai’r syniad a godwyd am academi arweinyddiaeth yn helpu i sicrhau cysondeb gwell yn yr arfer ar draws ysgolion ac y byddai hefyd yn bwysig wrth gynllunio’r gweithlu yn y dyfodol – gan sicrhau bod gennym y genhedlaeth nesaf o uwch-reolwyr mewn ysgolion.  Credwyd y gellid ymchwilio i hyn o bosibl gyda Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant lle mae profiad o hyfforddi staff addysgu ar hyn o bryd.

Roedd yn bleser gan y panel glywed gan y Prif Swyddog Addysg y bydd tîm gwella ysgolion newydd ar waith ym mis Medi ac y bydd yn cael rhaglen hyfforddiant a datblygiad lawn, gan gynnwys hyfforddiant cenedlaethol Cymru i arweinwyr herio.  Fe wnaethom drafod blaenoriaethau’r Gwasanaeth Gwella Ysgolion a chytuno bod yn rhaid i sicrhau cysondeb fod yn uchel ar y rhestr flaenoriaethau honno.  Mae’r panel yn bwriadu cynnal sesiwn gyda phennaeth y Gwasanaeth Gwella Ysgolion a’r Prif Swyddog Addysg ym mis Medi am y mater hwn.

Dau fater cysylltiedig arall a godwyd gan y panel oedd:

  1. Pwysigrwydd ymweliad hydref ysgolion a sut byddai cynnwys y llywodraethwyr yn fwy o fudd i’r ymweliad.  Er enghraifft, dylid gwahodd cadeiryddion pwyllgorau statudol yr ysgol.  Byddai hynny’n sicrhau bod yr wybodaeth o’r ymweliad hwnnw’n cael ei lledaenu’n effeithiol ar draws corff llywodraethu pob ysgol.
  2. Dylid trefnu bod mwy o hyfforddiant/wybodaeth am y gyfraith fel y mae mewn perthynas â llywodraethu ysgol ar gael i lywodraethwyr.  Teimlwyd ei bod yn hanfodol bod yr holl lywodraethwyr yn deall eu rôl a’u cyfrifoldebau’n llwyr. Mae Pwyllgor y Rhaglen Graffu wedi cytuno y bydd llywodraethu ysgol yn un o’r pynciau ar gyfer craffu manwl eleni ac y gall y mater hwn fod yn rhan o’r ymholiad hwnnw.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y Panel Perfformiad Ysgolion neu graffu’n fwy cyffredinol, ewch i’n gwefan www.abertawe.gov.uk/scrutiny neu e-bostiwch scrutiny@swansea.gov.uk

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.