Beth yw Addysg Gartref Ddewisol?

books-150x150Addysg Gartref Ddewisol, a adnabyddir hefyd fel Addysgu Gartref, yw pan fo rhieni/gofalwyr yn dewis addysgu eu plant gartref yn hytrach na’u hanfon i’r ysgol. Mae Addysg Gartref Ddewisol yn seiliedig ar ddewis rhieni. Mae hyn yn wahanol i Diwtora Gartref lle mae’r Awdurdod Lleol yn darparu addysg ar gyfer plant nad ydynt yn gallu mynychu’r ysgol oherwydd, er enghraifft, resymau meddygol.

Mae’r Panel Perfformiad Ysgolion am gael gwybod mwy am y pwnc hwn a byddant yn siarad â Phennaeth Cynhwysiad Addysg y cyngor i gael rhagor o wybodaeth. Mae rhai enghreifftiau o’r cwestiynau y byddant yn eu gofyn yn cynnwys:

  • Sut y caiff ei reoleiddio?
  • Pa gyswllt sydd gennym â phlant sy’n cael eu haddysgu gartref a’u rhieni/gofalwyr?
  • A oes llwybr clir ar gyfer rhieni a gweithwyr proffesiynol ar y mater?
  • Sut rydym yn sicrhau bod y plant hyn yn cael eu diogelu?
  • Pa wybodaeth sydd ar gael i rieni sy’n addysgu eu plant gartref?

Bydd y Panel yn cwrdd ar 21 Awst am sesiwn un-tro i drafod y mater hwn.

Os hoffech gael mwy o wybodaeth am y pwnc hwn neu am graffu yn gyffredinol, gallwch e-bostio scrutiny@swansea.gov.uk

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.