Beth gallwn ni ei wneud i gynyddu mewnfuddsoddi?

Swansea Uni

Canfu’r Panel Ymchwilio Craffu Mewnfuddsoddi fod gan Abertawe lawer o asedau a allai annog buddsoddiad yn yr ardal fel band eang cyflym iawn, cysylltiadau cludiant da, costau eiddo a rhentu cymharol isel, llafurlu mawr a pharod a chyfleusterau ar gyfer hyfforddiant, ymchwil a datblygiad drwy ein Prifysgolion a cholegau lleol. Fodd bynnag, mae’n amlwg bod angen gwneud gwaith i annog buddsoddiad mewn ffordd ragweithiol ac ar hyn o bryd mae’r adnoddau i wneud hynny’n gyfyngedig. Gallai hyn gael ei wneud drwy’r strategaeth Dinas-ranbarth newydd. Nodwyd bod angen i ni weithio mwy gyda sefydliadau eraill a busnesau lleol i gynyddu ein hadnoddau a’n sgiliau er mwyn gallu ehangu ein gorwelion.

Cynhaliwyd yr ymchwiliad dros gyfnod o chwe mis a bydd bellach yn adrodd ar ei ganfyddiadau a’i argymhellion i Gabinet y cyngor am benderfyniad. Roedd yr ymchwiliad yn cynnwys siarad ag amrywiaeth eang o bartïon â diddordeb a oedd yn cynnwys arolwg staff, busnesau lleol, sefydliadau sector cyhoeddus eraill a chynghorau. Bu’r panel yn siarad ag Aelod y Cabinet dros Adfywio a swyddogion y cyngor, Dyfodol Bae Abertawe, Cymorth Busnes Cymru, Siambr Fasnach De-orllewin Cymru, Prifysgol Cymru a Rheolwr Cyffredinol Sony UK.

Mae’r panel wedi cyflwyno nifer o argymhellion gan gynnwys:

  •  Mae mecanwaith clir yn ei le gyda strategaeth dinas-ranbarthau newydd a fydd yn ei gwneud yn atebol i wleidyddion lleol.
  • Cyflwyno un pwynt cyswllt ar gyfer ymholiadau busnes/buddsoddiad
  • Y dinas-ranbarth yn datblygu rhwydwaith cefnogi effeithiol gan gynnwys dyrannu adnoddau i wneud gwaith rhagweithiol i geisio mewnfuddsoddiad
  • Mae dwy elfen i ddisgwyliadau’r panel ynghylch effaith yr adroddiad hwn:
  • Gwelliant yn y prosesau ar draws y rhanbarth yn arbennig o ran trefnu cydweithio i gyflwyno cyfleoedd mewnfuddsoddi gwell ac i ddatblygu brand a gwerthu Abertawe a’r rhanbarth ar y llwyfan byd-eang.
  • Gwella canlyniadau drwy gynyddu buddsoddiad yn y rhanbarth gan sefydliadau a ddaw â’r budd mwyaf i Abertawe

Gallwch gael copi llawn o’r adroddiad ar dudalennau gwe craffu’r cyngor drwy ddilyn y ddolen 

 

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.