Y Cabinet yn trafod adroddiad mewnfuddsoddiad Abertawe

spotlight twitter 2

Yng nghyfarfod Cabinet y Cyngor a gynhaliwyd ar 26 Awst, trafodwyd yr adroddiad craffu ac argymhellion sy’n deillio o’r ymholiad diweddar i fewnfuddsoddiad yn y rhanbarth.

Daeth yr ymholiad i’r casgliad bod gan Abertawe lawer o asedau a allai annog mewnfuddsoddiad yn yr ardal, er enghraifft, band eang tra chyflym, cysylltiadau cludiant da, costau eiddo a rhentu isel, gweithlu ffyddlon sylweddol a chyfleusterau ar gyfer hyfforddiant, ymchwil a datblygu drwy ein prifysgolion a’n colegau lleol. Fodd bynnag, amlygodd fod angen gweithio i annog mewnfuddsoddiad ac mae’r adnoddau i wneud hyn yn brin ar hyn o bryd, gan gydnabod y gallai’r Strategaeth Dinasoedd-ranbarth newydd fod yn ffordd bosib o fynd i’r afael â hyn. Mae’r panel o’r farn bod angen i ni weithio mwy gyda sefydliadau eraill a busnesau lleol i gynyddu ein cronfa o adnoddau a sgiliau er mwyn gallu ehangu’n gweithgareddau.

Wrth ddiolch i’r panel craffu am eu gwaith, dywedodd y Cabinet y byddent yn ei ystyried yn ofalus ac yn llunio ymateb ffurfiol a gaiff ei gyflwyno mewn cyfarfod o’r Cabinet yn y dyfodol agos.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.